Os oes gennych anawsterau symudedd neu os ydych wedi’ch cofrestru'n ddall, efallai y byddwch yn gymwys i gael Bathodyn Glas i ddefnyddio mannau parcio hygyrch pwrpasol ledled y DU.
Os gallwch ddarparu prawf o anabledd, efallai y byddwch yn gymwys hyd yn oed os credwch nad ydych yn bodloni'r meini prawf.
Gwneud cais ar-lein
Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas ar-lein. Bydd yn rhaid i chi gynnwys:
- ffotograff diweddar,
- prawf o'ch cyflwr meddygol,
- prawf adnabod, a
- thystiolaeth o gyfeiriad.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys cyfeiriad e-bost er mwyn i ni allu anfon yr wybodaeth ddiweddaraf atoch am eich cais am fathodyn ac adnewyddu.
Os nad oes gennym gyfeiriad e-bost dilys, efallai na fyddwch yn derbyn nodyn atgoffa pan fydd eich bathodyn yn dod i ben.
Y Tîm Bathodynnau Glas
Gwasanaethau Parcio
Blwch Post 47
Caerdydd
CF11 1QB
Cysylltwch â ni i gael help i wneud cais os na allwch ei wneud eich hun.
Parcio gyda Bathodyn Glas
Rhaid i'ch bathodyn a'ch cloc parcio fod ar ddangosfwrdd neu banel blaen eich car gyda'r manylion i’w gweld drwy'r ffenestr flaen.
Os ydych chi'n parcio rhywle gyda chyfyngiad amser, rhaid i chi roi cloc parcio gyda'ch bathodyn i ddangos eich amser cyrraedd.
Gallwch ddefnyddio eich Bathodyn Glas i barcio cyhyd ag y bydd ei angen arnoch yn y mannau canlynol:
- parcio talu ac arddangos ar y stryd
- meysydd parcio’r Cyngor
- mannau parcio i ddeiliaid Bathodyn Glas
Gallwch barcio yn unrhyw un o'r mannau canlynol am hyd at 3 awr os ydych yn defnyddio cloc parcio gyda'ch Bathodyn Glas:
- mannau parcio i breswylwyr,
- llinellau melyn dwbl, neu
- linellau melyn sengl.
Gallwch barcio am ddim y tu allan i’r oriau rheoledig.
Darllenwch arwyddion maes parcio i gael gwybodaeth am ffioedd, cyfyngiadau amser a rheolau arbennig ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas, neu waharddiadau llwytho.
Efallai y cewch docyn parcio os byddwch yn eu harddangos yn anghywir.
Deiliad y bathodyn neu’r gwarcheidwad sy’n gyfrifol am sicrhau bod y Bathodyn Glas yn cael ei gadw'n ddiogel bob amser.
Rydym yn argymell yn gryf fod y bathodyn yn aros gyda deiliad y bathodyn pan nad yw'n cael ei ddefnyddio. Peidiwch â'i adael mewn cerbyd pan nad yw'n cael ei ddefnyddio, hyd yn oed os ydych chi'n defnyddio'r cerbyd yn rheolaidd.
Rydym ni'n cynnal gorfodi bathodynnau glas yn effeithiol. Os canfyddir eich bod yn camddefnyddio'r bathodyn, gallwch gael eich erlyn.
Cael Bathodyn Glas newydd
Mae Bathodynnau Glas am ddim yng Nghymru fel arfer ond mae ffi o £10 os bydd angen un arall arnoch ar ôl colli neu ddifrodi eich bathodyn.
Bydd angen i chi gynnwys siec neu archeb bost gyda’ch cais a’i gwneud yn daladwy i “Cyngor Caerdydd” gan ysgrifennu eich enw ar y cefn.
Peidiwch ag anfon sieciau wedi’u hôl-ddyddio nac arian parod oherwydd gallant fynd ar goll.
Adnewyddu eich Bathodyn Glas
Mae eich bathodyn glas yn ddilys am 3 blynedd. Mae angen i chi ei adnewyddu o fewn 12 wythnos i’r dyddiad dod i ben.
Os nad ydych yn adnewyddu eich Bathodyn Glas, dychwelwch ef i'r Cyngor cyn gynted â phosibl. Os yw dyddiad dod i ben y Bathodyn Glas wedi mynd heibio, gallwch ei ddinistrio.
Os ydych yn defnyddio Bathodyn Glas hen neu anghywir, cewch docyn parcio.
Os bydd eich manylion yn newid
Dywedwch wrthym os bydd eich manylion neu'ch amgylchiadau'n newid. Mae'n bwysig cadw ein cofnodion yn gyfredol fel bod eich bathodyn yn aros yn ddilys.
Os ydych yn symud allan o Gaerdydd, bydd angen i chi wneud cais i'ch cyngor lleol pan ddaw eich bathodyn presennol i ben.
Bathodynnau Glas i sefydliadau
Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas os yw eich sefydliad yn gofalu am bobl anabl sy'n gymwys ac yn eu cludo.
Dim ond wrth gludo pobl anabl y gall eich sefydliad ddefnyddio'r bathodyn.
Mae Bathodyn Glas ar gyfer eich sefydliad yn costio £10.
Camddefnyddio Bathodyn Glas
Dim ond os mai chi yw'r deiliad cofrestredig y gallwch ddefnyddio Bathodyn Glas, neu os yw'r deiliad cofrestredig yn teithio gyda chi yn y car.
Os ydych yn defnyddio bathodyn nad yw'n perthyn i chi, cewch ddirwy o hyd at £1,000.
Gallwch roi gwybod i ni'n gyfrinachol os yw rhywun yn parcio'n anghyfreithlon mewn man parcio 'bathodyn glas yn unig' neu'n camddefnyddio bathodyn glas drwy ffonio 029 2087 2088.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth:
Cysylltu â ni
Gallwch hefyd ysgrifennu atom yn:
Y Tîm Bathodynnau Glas
Gwasanaethau Parcio
Blwch Post 47
Caerdydd
CF11 1QB