Bydd angen llun digidol arnoch i wneud cais am fathodyn glas ar-lein. Rhaid rhoi llun newydd bob tro y byddwch yn gwneud cais.
Rhaid i'r llun fod yn un diweddar ar ffurf pasbort.
Efallai bydd eich cais yn cael ei oedi os nad yw'ch llun yn addas.
Rhaid i'ch llun:
- fod yn glir ac yn gryno
- fod o’ch pen a'ch ysgwyddau yn unig
- fod mewn lliw
- fod ar gefndir plaen neu liw golau
- beidio â bod yn hunlun
Yn eich llun mae'n rhaid i chi:
- fod yn wynebu tua’r blaen ac yn edrych yn syth at y camera
- peidio â chael unrhyw beth yn gorchuddio'ch wyneb
Os ydych yn cyflwyno llun printiedig, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys enw a dyddiad geni'r ymgeisydd ar gefn y llun.
Os na allwch chi ddarparu llun adnabod gyda'ch cais, dylai'r llun a ddarperir gennych fod wedi ei wirio gan berson proffesiynol. Rhaid iddyn nhw gynnwys y gair “mae hwn yn debygrwydd gwirioneddol o...” ynghyd â llofnod a galwedigaeth.
Rhaid i chi brofi eich bod yn gymwys bob tro y gwneir cais, hyd yn oed os oedd gennych fathodyn glas yn y gorffennol. Rhaid i'r prawf meddygol rydych yn ei ddarparu fod o fewn y 12 mis diwethaf.
Mae angen cymaint o wybodaeth a thystiolaeth â phosibl arnom i asesu cyflwr meddygol. Os na fyddwn yn derbyn y dystiolaeth sydd ei hangen arnom, gallai gymryd mwy o amser i brosesu eich cais.
Os byddwch yn dweud yn eich cais eich bod yn cael meddyginiaeth ar bresgripsiwn, bydd angen i chi ddarparu prawf o bresgripsiynau ailadroddus.
Os byddwch yn dweud yn eich cais eich bod yn derbyn neu wedi derbyn gwasanaethau neu driniaethau fel Pryd ar Glud, gwasanaethau gofal, ffisiotherapi, clinigau poen ac ati, bydd angen i chi ddarparu prawf o hyn.
Os byddwch yn dweud yn eich cais eich bod yn defnyddio cymorth cerdded, bydd angen i chi ddarparu prawf prynu neu lythyr gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol a ragnododd y cymorth symudedd.
Tystiolaeth
Rhai enghreifftiau o dystiolaeth y gellir eu darparu:
- llythyr neu adroddiad gan feddyg ymgynghorol
- llythyr neu adroddiad gan therapydd galwedigaethol
- llythyr neu adroddiad gan ffisiotherapydd
- llythyr gan glinig poen
- llythyr gan nyrs ardal
- llythyr gan weithiwr cymorth
- copi o'r cynllun gofal
- Adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol neu dîm Gofal Cymdeithasol Oedolion
Gallwch ddarparu crynodeb meddyg teulu o nodiadau sy'n nodi'r diagnosis os nad oes gennych unrhyw dystiolaeth arall ar gael.
Ni ellir derbyn llythyrau apwyntiadau, cardiau neu bresgripsiynau fel tystiolaeth gan nad ydyn nhw’n cynnwys gwybodaeth feddygol. Fodd bynnag, gellir eu hychwanegu fel tystiolaeth ategol.
Gwasanaeth Cynghori Annibynnol
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gwasanaeth cynghori annibynnol ar gyfer awdurdodau lleol os nad oes modd gwneud penderfyniad ar gais meddygol.
Os na allwn ddod i benderfyniad, byddwn yn anfon ffurflen gais atoch y mae'n rhaid i chi ei llenwi a'i dychwelyd atom.
Pan fyddwn wedi derbyn eich cais, byddwn yn ei gyfeirio i’r gwasanaeth cynghori annibynnol. Byddan nhw’n cysylltu â chi gyda'u penderfyniad neu'n gofyn i chi am fwy o wybodaeth.
Byddwn yn ysgrifennu atoch os bydd eich cais yn cael ei wrthod.