Rydym yn ymwybodol o'r oedi wrth i’r Adran Gwaith a Phensiynau brosesu dyfarniadau Taliad Annibyniaeth Bersonol (TAB).
Os yw eich bathodyn glas i fod i gael ei adnewyddu ac nad ydych wedi derbyn eich llythyr dyfarniad TAB newydd, gallwn dderbyn llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau gydag estyniad amser ar gyfer eich dyfarniad TAB fel prawf o'ch hawl.
Fel arall, os nad oes gennych lythyr estyniad amser yna gallwch gyflwyno cais meddygol. Darllenwch ein canllaw ar wneud cais meddygol.
Gallwch adnewyddu eich bathodyn glas hyd at 12 wythnos cyn i'ch bathodyn presennol ddod i ben. Ni fydd eich bathodyn newydd yn cael ei gyhoeddi tan y mis y daw eich bathodyn presennol i ben.
Os gwnaethoch ddarparu cyfeiriad e-bost gyda'ch cais, byddwch yn derbyn nodyn atgoffa hyd at 12 wythnos cyn i'ch bathodyn presennol ddod i ben.
Amnewid bathodyn glas sydd wedi'i golli neu ei ddifrodi
Os byddwch yn colli neu'n difrodi eich bathodyn, bydd ffi amnewid o £10.
Os rhoddwyd gwybod am ddwyn eich bathodyn glas, efallai y byddwn yn gallu rhoi bathodyn newydd am ddim. Bydd rhaid i chi gynnwys rhif cyfeirnod trosedd dilys gyda’ch cais cyn y gallwn adnewyddu eich trwydded.
Os yw eich bathodyn ar fin dod i ben mewn llai na 3 mis, bydd angen i chi gyflwyno cais adnewyddu yn lle hynny.
Er mwyn cael bathodyn glas newydd, bydd angen i chi ddarparu:
- eich manylion personol
- eich rhif yswiriant gwladol (os oes gennych un)
- rhif y bathodyn presennol (os ydych chi'n ei wybod)
Pan fydd eich cais wedi'i gyflwyno, bydd angen i chi wneud y taliad.
Gwnewch yn siŵr bod enw a dyddiad geni'r ymgeisydd ar gefn y siec neu'r archeb sefydlog. Rhaid gwneud y siec neu’r archeb sefydlog yn daladwy i Gyngor Caerdydd.
Peidiwch ag anfon sieciau wedi’u hôl-ddyddio nac arian parod oherwydd gallan nhw fynd ar goll.
Newid eich manylion
Rhaid i chi ddweud wrthym os bydd eich manylion neu'ch amgylchiadau'n newid. Mae'n bwysig bod ein cofnodion yn gyfredol fel bod eich bathodyn yn aros yn ddilys.
Beth i'w wneud os ydych wedi symud
Os ydych yn symud i Gaerdydd o awdurdod arall, bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod blaenorol i ddweud wrthyn nhw eich bod wedi symud. Byddan nhw’n trosglwyddo manylion eich bathodyn i ni.
Gallwch barhau i ddefnyddio'ch bathodyn. Nid oes angen i chi wneud cais am fathodyn newydd nes bod eich un presennol yn dod i ben.
Beth i'w wneud os nad oes angen y bathodyn mwyach
Os nad oes angen bathodyn glas dilys arnoch, dylech ei ddychwelyd atom.
Bydd angen dychwelyd y bathodyn os:
- yw deiliad y bathodyn wedi marw
- nad yw’r rhesymau meddygol yn berthnasol mwyach
- yw'r Lwfans Byw i'r Anabl wedi'i ddileu
- yw deiliad y bathodyn wedi symud i gartref gofal neu gartref preswyl ac nad yw angen bathodyn mwyach
Cysylltu â ni
Cyn cysylltu â ni, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych ar eich cais. Bydd unrhyw ddiweddariadau cynnydd cais wedi cael eu hanfon i'r cyfeiriad hwn.
Gall gymryd hyd at 12 wythnos i gais gael ei brosesu. Peidiwch â chysylltu â ni os ydych wedi gwneud cais o fewn yr amser hwn oherwydd gall hyn ymestyn eich cais.
Os gwnaethoch gais dros 12 wythnos yn ôl ac nad ydych wedi derbyn unrhyw ddiweddariadau, cysylltwch â ni.
Ffôn: 029 2087 3209 (9:30am i 12pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
E-bost: BathodynnauAnabledd@caerdydd.gov.uk
Neu, bydd angen i chi roi enw, cyfeiriad a dyddiad geni'r ymgeisydd yn llawn:
Cysylltu â ni