Os oes gennych anabledd dysgu efallai y byddwch yn ei chael yn anodd:
- deall gwybodaeth newydd neu gymhleth,
- dysgu sgiliau newydd, neu
- ymdopi ar eich pen eich hun.
Yr hyn i’w wneud os oes angen help arnoch
Os oes gennych chi (neu rywun rydych chi’n ei nabod) anabledd dysgu a bod angen help arnoch, gallwn drefnu i weithiwr cymdeithasol gynnal asesiad i weld a allwn helpu mewn unrhyw ffordd.
Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i gael help.
Gwneud cais am asesiad.
Unwaith i chi wneud cais am asesiad bydd gweithiwr cymdeithasol yn cysylltu â chi i gael gwybodaeth amdanoch chi a phennu pa wasanaethau y gallem eu cynnig i chi.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Os gallwn gynnig gwasanaeth i chi byddwn yn siarad â chi a’ch gofalwr am eich anghenion ac yn ceisio dod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch neu roi arian i chi
taliadau uniongyrchol i dalu am y cymorth hwn.
Os na allwn gynnig gwasanaeth i chi byddwn yn ceisio rhoi cymorth i chi ddod o hyd i bobl eraill a allai eich helpu chi, fel gwasanaethau a sefydliadau iechyd.
Dogfennau defnyddiol:
Gwasanaethau anabledd dysgu (740kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni
Gwneud cais am asesiad
Cysylltu â ni
029 2053 6111