Monitro Cydraddoldeb
Yn unol â’r
Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol i Gymru, mae dyletswydd penodol ar Gyngor Caerdydd i wneud trefniadau i gasglu, asesu a chyflwyno adroddiadau ar y dystiolaeth a’r wybodaeth sydd ganddo.
Un ffordd o wneud hyn yw drwy fonitro’r gwasanaethau a ddarperir gennym o ran cydraddoldeb.
Fel Cyngor, mae’n hanfodol ein bod yn gwybod pwy sy’n byw yn y gymuned er mwyn gallu sicrhau bod ein gwasanaethau yn addas ac yn hygyrch i bawb.
Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb
Fel awdurdod cyhoeddus, mae’n ofynnol i Gyngor Caerdydd roi sylw dyledus i’r canlynol wrth wneud penderfyniadau:
- dileu camwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon
- hybu cyfle cyfartal
- meithrin cydberthnasau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd a ddiogelir a phobl eraill.
Un ffordd o ddangos sylw dyledus yw drwy gynnal asesiadau o effeithiau posibl newidiadau arfaethedig i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion ar gydraddoldeb.
Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yw’r offeryn a ddefnyddir gennym i sicrhau bod y polisïau sy’n llunio ein gwaith yn sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad at bob un o’n gwasanaethau.
Mae Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn ystyried p’un a yw arferion gwaith yn debygol o gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar draws ein cymunedau amrywiol.
Bydd dull gweithredu systematig a chadarn o ran asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn helpu i sicrhau ein bod yn trin pawb yn gyfartal ac yn eu trin ag urddas a pharch. Wrth wneud hyn byddwn yn helpu i wella ansawdd bywyd holl drigolion y ddinas a sicrhau bod Caerdydd yn ddinas lle gall pobl o bob math o gefndiroedd gyflawni eu potensial.
Gweld Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb Cynigion y Gyllideb
Os hoffech gynnig adborth ar yr Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb, cysylltwch â ni.