Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Pwyllgor Craffu’r Economi a Diwyllian

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Mae Pwyllgor Craffu’r Economi a Diwylliant yn adolygu:

  • Rhandiroedd, 
  • Cymorth Busnes, 
  • Y Fargen Ddinesig,
  • Diwylliant, 
  • Yr Economi, 
  • Digwyddiadau, 
  • Awdurdod yr Harbwr, 
  • Hybiau, 
  • Hamdden, 
  • Llyfrgelloedd, 
  • Dysgu Gydol Oes,
  • Prosiectau Mawr, 
  • Parciau, 
  • Chwaraeon, 
  • Twristiaeth, 
  • Lleoliadau


 
​Gweler rhagor o wybodaeth am y Bwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant.​


Mae aelodau'r Pwyllgor Craffu yn awyddus i glywed barn a phryderon y rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. 
​​

Dweud eich dweud ar bynciau sydd o ddiddordeb i chi.


Video id: m86DW5Slm2o


Fideo o'r Cynghorydd Nigel Howells, Cyn-Gadeirydd Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant, yn trafod y gwaith a wnaed yn ystod 2020 a 2021.


​​​
Mae Aelodau’r Pwyllgor Craffu wedi datblygu eu rhaglen waith. 
 

Os hoffech helpu'r Pwyllgor i ddatblygu canlyniadau da i drigolion Caerdydd, gallwch awgrymu eitem i'w chynnwys yn y cynllun nesaf drwy gysylltu â ni.​

Gweler isod am wybodaeth am ymchwiliadau craffu ac adroddiadau ymchwil blaenorol. 

Gallwch hefyd weld papurau cyfarfod pwyllgor.

Am gopïau llawn o'r adroddiadau hyn, cysyllt​wch â ni.​





​​​​​

Adroddiadau ymchwiliad​​




Weithiau mae Pwyllgorau Craffu yn edrych yn fanwl ar bwnc ac yn anfon adroddiad i'r Cabinet, gydag argymhellion ar sut i wella.

Mae'r Cabinet yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb i'r argymhellion.​

​​

  • Ariannu Parciau (Ebrill 2018) 
  • Gweithdai'r Cyngor a Safleoedd Arloesi (Tachwedd 2018) 
  • Digwyddiadau yng Nghaerdydd (Chwefror 2019) 
  • Diwylliant yng Nghaerdydd (Chwefror 2020) ​​

Adroddiadau Ymchwil​​

Rydym yn gwneud gwaith ymchwil annibynnol i lywio gwaith y Pwyllgorau, gan gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid ar eu barn a'u profiadau. Rydym hefyd yn adolygu ymchwil ac arfer da sy'n bodoli eisoes i dynnu sylw at waith y gallai Cyngor Caerdydd ddysgu ohono.​

  • Adroddiad arolwg ar ganfyddiadau'r cyhoedd o Farchnad Ganolog Dan Do Caerdydd ac Arcedau Siopa Hanesyddol, 2014
  • Profiadau Awdurdodau Lleol wrth Gadw Ardrethi Busnes, 2017​

Bob blwyddyn, mae pwyllgorau craffu yn adrodd ar eu gwaith, gan dynnu sylw at y cyfraniadau a gafwyd a'r argymhellion a wnaed.


Mae eu hadroddiadau'n tynnu sylw at effaith craffu a newidiadau a wnaed.

Yn 2020 i 21, ac yn 2021 i 22 datblygodd y pum pwyllgor craffu Adroddiad Blynyddol cyfun.

Gweler Adroddiad Blynyddol Craffu 2021 i 20​22 (5.4mb PDF)​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Gweler Adroddiad Blynyddol Craffu 2020 i 20​21 (5.2mb PDF)​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd








© 2022 Cyngor Caerdydd