Bydd adroddiad ar yr ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ddarparu lleoedd ysgol arbenigol cynradd ac uwchradd o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth 2024.
Mae'r adroddiad yn hysbysu'r Cabinet o'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad, y materion a godwyd, ymateb y Cyngor i'r rhain ac argymhellion ar y ffordd ymlaen.
Yn yr adroddiad argymhellir bod y Cabinet yn awdurdodi swyddogion i gyhoeddi hysbysiadau statudol i:
- sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 8 lle newydd ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Baden Powell o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.
- sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 8 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. Byddai hyn yn cymryd lle'r Dosbarth Lles presennol. sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 16 lle newydd ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Herbert Thompson o fis Medi 2025, o fewn adeiladau presennol neu adeilad newydd.
- sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 16 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Lakeside o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. Byddai hyn yn cymryd lle'r Dosbarth Lles presennol.
- sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 8 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Springwood o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. Byddai hyn yn cymryd lle'r Dosbarth Lles presennol.
- sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 20 lle ar gyfer dysgwyr ag Anghenion iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.
Argymhellir nad yw'r Cabinet yn symud ymlaen â'r cynnig i sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 8 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gymraeg Pwll Coch. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda'r ysgol i gefnogi dysgwyr sydd eisoes wedi cofrestru ac sydd wedi'u lleoli yn y Dosbarth Lles, a bydd cynigion diwygiedig ar gyfer darparu lleoedd ysgol gynradd iechyd a lles emosiynol cyfrwng Cymraeg yn cael eu cyflwyno cyn gynted â phosibl.
Rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion yn dilyn cyfarfod y Cabinet.
Mae Cyngor Caerdydd yn ymgynghori ar newidiadau i ddarparu lleoedd ysgol arbenigol cynradd ac uwchradd o safon uchel i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Beth sy’n cael ei gynnig?
Er mwyn ateb y galw cynyddol am leoedd Canolfan Adnoddau Arbenigol i ddysgwyr cynradd ac uwchradd ag anghenion iechyd a lles emosiynol, mae’r Cyngor yn cynnig:
- sefydlu canolfan adnoddau arbenigol (8 lle) ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Baden Powell o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.
- sefydlu canolfan adnoddau arbenigol (8 lle) ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. Byddai hyn yn disodli'r dosbarth lles presennol.
- sefydlu canolfan adnoddau arbenigol (16 lle) ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Herbert Thompson o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.
- sefydlu canolfan adnoddau arbenigol (16 lle) ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Lakeside o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. Byddai hyn yn disodli'r dosbarth lles presennol.
- sefydlu canolfan adnoddau arbenigol (8 lle) ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Springwood o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. Byddai hyn yn disodli'r dosbarth lles presennol.
- sefydlu canolfan adnoddau arbenigol (8 lle) ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gymraeg Pwll Coch o fis Medi 2024 yn yr adeiladau presennol. Byddai hyn yn disodli'r dosbarth lles presennol.
- sefydlu canolfan adnoddau arbenigol (20 lle) ar gyfer dysgwyr ag anghenion iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.
Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg o 20 Tachwedd 2023 i 19 Ionawr 2024 ac mae’n gyfle i ddysgu am y newidiadau arfaethedig, i ofyn cwestiynau ac i wneud sylwadau.
Gallwch ddarllen neu lawrlwytho copi o’r dogfennau ymgynghori sy’n nodi’r newidiadau arfaethedig.
Mae’r wybodaeth yn y ddogfen hon wedi’i dylunio i’w hargraffu ac efallai na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Dweud eich dweud
Gallwch ddweud eich dweud yn y ffyrdd canlynol:
Dyddiadau cyfarfodydd ymgynghori
Rydym wedi trefnu sesiynau galw heibio a chyfarfodydd cyhoeddus wyneb-yn-wyneb ac ar-lein y gallwch ddod iddynt os hoffech i ni egluro'r newidiadau a awgrymir i chi a gofyn cwestiynau.
Sesiwn galw i mewn
| Dydd Mercher 29 Tachwedd 2023 9am i 11am
| Hyb Treali a Chaerau
|
Sesiwn galw i mewn
| Dydd Mawrth 5 Rhagfyr 2023 9am i 11am | Hyb Powerhouse Llanedern
|
Sesiwn galw i mewn
| Dydd Llun 8 Ionawr 2024
2pm i 4pm
| Hyb Partneriaeth Tredelerch
|
Sesiwn galw i mewn ar-lein
| Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2023 10am i 12 hanner dydd
| Microsoft Teams
|
Sesiwn galw i mewn ar-lein
| Dydd Gwener 12 Ionawr 2024 2pm i 4pm
| Microsoft Teams
|
Cyfarfod cyhoeddus
(Saesneg/Cymraeg)
| Dydd Iau 11 Ionawr 2024 5pm i 7pm
| Hyb y Llyfrgell Ganolog
|
Cyfarfod cyhoeddus ar-lein (Cymraeg)
| Dydd Llun 15 Ionawr 2024 5:30pm i 7pm
| Microsoft Teams
|
Cyfarfod cyhoeddus ar-lein (Saesneg)
| Dydd
Mawrth 16 Ionawr 2024
5:30pm i 7pm
| Microsoft Teams
|
Mae'r sesiynau galw heibio ar-lein a cyfarfodydd cyhoeddus ar-lein yn cael eu cynnal trwy Microsoft Teams.
Cadwch eich slot drwy e-bostio ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk neu drwy ffonio 029 2087 2720.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 19 Ionawr 2024.
Os oes unrhyw ymholiadau gennych, cysylltwch â’r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion.
Gallwch gysylltu drwy e-bost neu dros y ffôn.