Yn unol â rheoliadau, unwaith y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, mae’n rhaid i’r Fforwm roi gwybod i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod o’r ymgynghoriadau sy’n mynd rhagddynt. Wrth i’r Fforwm ddod i benderfyniad ar sut mae gwneud hyn, y dulliau a ffefrir yw:
- Cylchlythyron drwy e-bost
- Cynrychiolwyr y Pennaeth yn adrodd i gynadleddau priodol
- Cyhoeddi nodyn o’r cyfarfod ar wefan yr Awdurdod Lleol