Defnyddiwch ein system talu ar-lein ddiogel i dalu’ch bil treth gyngor.
Sicrhewch fod gennych y manylion canlynol wrth law:
- rhif cyfrif eich treth gyngor
(ar gornel dde uchaf eich bil. Mae'r rhif hwn yn 8 digid o hyd ac yn dechrau gyda '1' neu '2') - eich Cerdyn Debyd neu Gredyd
- y swm rydych am ei dalu
talu ar-lein
Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol i dalu’ch Treth Gyngor yn syth o’ch cyfrif banc bob mis.
Trefnwch Debyd Uniongyrchol ar-leinDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Gallwch ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd i dalu dros y ffôn. System daliadau awtomatig 24 awr yw hon.
Bydd angen y canlynol arnoch cyn i chi ffonio:
- rhif cyfrif eich treth gyngor
(ar gornel dde uchaf eich bil. Mae'r rhif hwn yn 8 digid o hyd ac yn dechrau gyda '1' neu '2') - eich Cerdyn Debyd neu Gredyd
- y swm rydych am ei dalu
Ffoniwch 029 2044 5900. Dilynwch y cyfarwyddiadau i wneud eich taliad.
Gallwch siarad ag un o’n hymgynghorwyr gwasanaeth cwsmeriaid am eich bil. Nid yw hwn yn wasanaeth 24 awr, ac mae ond ar agor yn ystod
oriau agor y ganolfan alwadauDolen yn agor mewn ffenestr newydd
Anfonwch eich siec neu’ch archeb bost gyda’ch cerdyn talu’r dreth gyngor i:
Cyngor Caerdydd
Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3WD
Dylid croesi Sieciau / Archebion Post a’u gwneud yn daladwy i Cyngor Caerdydd. Gofynnwch am dderbynneb os oes angen un arnoch.
Ni dderbynnir sieciau ôl-ddyddiedig.
Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post.
Gallwch dalu’ch Treth Gyngor ym mhob swyddfa bost (gydag arian parod neu siec) ac mewn siopau sy’n dangos arwydd PayPoint (gydag arian parod yn unig).
I wneud hyn, bydd angen cerdyn talu’r dreth gyngor arnoch. Ffon 029 2087 2087.
Gallwch dalu’ch bil yn syth i gyfrif banc y Cyngor:
Nat West Bank,
96 Heol-y-Frenhines,
Caerdydd, CF10 2GR
Cod didoli: 52-21-06
Rhif cyfrif: 20408838
Cofiwch ddyfynnu eich rhif cyfrif Treth Gyngor.