Gweler y gwasanaethau parcio a theithio presennol sydd gan Gaerdydd i'w cynnig.
Parcio a theithio i siopwyr Nadolig
O ddydd Sadwrn 18 Tachwedd, mae Caerdydd AM BYTH wedi helpu i drefnu gwasanaeth parcio a theithio rhwng Neuadd y Sir a Stryd y Gamlas yng nghanol y ddinas.
Bydd y gwasanaeth hwn yn rhedeg bob dydd Sadwrn am 6 wythnos. Diwrnod olaf y gwasanaeth fydd dydd Sadwrn 23 Rhagfyr.
Bydd y bws yn rhedeg bob 20 munud. Bydd y bws cyntaf yn dod o Neuadd y Sir am 9am, a bydd y bws olaf yn dod o Stryd y Gamlas am 7:30pm.
Cost y car yw £4.
Y cod post ar gyfer Neuadd y Sir yw CF10 4UW.
Gweler safle bws Stryd y Gamlas ar Google Maps.
Parcio a theithio i'r ysbyty
Mae Bwrdd GIG Caerdydd a'r Fro yn darparu gwasanaeth parcio a theithio rhad ac am ddim yn Nwyrain Caerdydd sy'n rhedeg i Ysbyty Athrofaol Cymru ac oddi yno.
Mae'r maes parcio ar gael ar gyfer rhannu car a'r cyfeirnod Sat nav yw CF23 8HH.
Dim ond ar gyfer staff, cleifion, ac ymwelwyr sy'n mynychu'r ysbyty y mae'r gwasanaeth yma ar gael.
Sut i gyrraedd
O'r Dwyrain:
- dod oddi ar gyffordd 29 yr M4
- cymerwch yr ail allanfa ar y gylchfan
- dilynwch yr arwyddion ar gyfer maes parcio Parcio a Theithio.
O'r Gorllewin:
- dod oddi ar gyffordd 30 yr M4
- Cymerwch y drydedd allanfa ar y gylchfan gyntaf
- cymerwch yr ail allanfa ar yr ail gylchfan.
- cymerwch yr ail allanfa ar y trydydd cylchfan, ar yr A48 sy'n mynd tuag at ganol y ddinas.
- i gymryd yr allanfa gyntaf ar yr A48 a dilyn arwyddion i'r maes parcio.
Oriau agor
Llun i Gwener - 6.25am i 9pm
Sadwrn – 7.30am i 9pm
Mae'r safle yn cau yn fuan ar ôl i'r bws olaf gyrraedd, wedi i'r holl deithwyr adael.
Nid oes cyfyngiadau uchder cerbydau ar y safle.
Mae gan y safle deledu cylch cyfyng ond mae cerbydau wedi parcio mewn perygl y perchennog.
Ni allwch adael eich cerbyd dros nos ar y safle.
Parcio a theithio am digwyddiadau
Mae'r cyngor yn trefnu gwasanaethau parcio a theithio ar gyfer digwyddiadau mawr sy'n cael eu cynnal yn Stadiwm Principality.