Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Beth yw Hawliau Tramwy Cyhoeddus?

Mae gan Gaerdydd 200 km o Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Llwybrau Ceffylau. Rydym ni’n gyfrifol am sicrhau bod y rhwydwaith hawliau tramwy’n cael ei fapio’n gywir, a bod y llwybrau’n cael eu cynnal fel bod y cyhoedd yn gallu eu mwynhau a’u defnyddio’n ddiogel.


Mae hawl tramwy cyhoeddus a phriffordd, y ddau ohonynt, yn golygu ffordd lle mae gan y cyhoedd hawl i basio ac ailbasio drosti. Nodwch os gwelwch yn dda bod gan rai llwybrau hawliau mynediad preifat (h.y. mynediad i gerbyd neu geffyl).


Yng Nghaerdydd, mae gennym y categorïau llwybrau a ganlyn sydd wedi’u cofrestru ar y Map Terfynol:


  • Llwybrau troed: Hawl tramwy i gerddwyr.
  • Llwybrau ceffyl: hawl tramwy i; gerddwyr, marchogion (gan gynnwys yr hawl i dywys ceffylau) a seiclwyr - sy’n gorfod ildio i ddefnyddwyr eraill. Dylid nodi nad yw pob llwybr sydd wedi ei ddangos ar Fap Arolwg Ordnans yn Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Dim ond dangos nodwedd wedi’i arolygu y mae.

Mathau eraill o lwybrau nad ydynt ar y Map Terfynol:

  • Priffordd Fabwysiedig: Mae hwn yn derm am briffordd gyhoeddus a gynhelir sydd ag atebolrwydd uwch o ran arwyneb a gofal na’r Hawl Tramwy Cyhoeddus safonol.
  • Llwybrau Caniatáu: Mae’r rhain yn llwybrau y mae perchennog tir wedi rhoi cytundeb penodol i’r cyhoedd eu defnyddio.
  • Lonydd Gwyrdd: Nid oes gan y term yma ystyr cyfreithiol, ond caiff ei ddefnyddio fel disgrifiad ffisegol o lonydd sydd â llystyfiant dan droed neu sydd wedi eu hamgáu gan wrychoedd a dyna pam y defnyddir y term ‘gwyrdd’.


Gwelwch y canllawiau cyffredinol ar gyfer Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

Cysylltu â ni



    ​​​​​​​​​​
    © 2022 Cyngor Caerdydd