Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Canllawiau cyffredinol

​Os byddwch angen rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus.



Yn gyffredinol, nac oes, dim ond ar dir Mynediad Agored a Thir Comin dynodedig a Grîn y Pentref. Ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus, mae’n rhaid i chi aros ar y llwybr llinol dynodedig.

Na. Yn 1781 pennodd yr Arglwyd Mansfield reol am wyro naturiol “er daioni pobl yn gyffredinol mae pobl yn pasio i mewn i linell arall.”

Na, dydy hyn ddim yn wir. Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn parhau i fodoli’n amhenodol heblaw bod y tir y maent yn ei groesi’n cael ei ddinistrio (er enghraifft gan erydiad yr arfordir), neu ei ddileu gan broses gyfreithiol. Ond, mae’r gwrthwyneb yn wir, oherwydd gellir sicrhau hawl tramwy cyhoeddus o dan amgylchiadau penodol lle doedd dim o’r blaen os yw llwybr yn cael ei ddefnyddio am 20 mlynedd (Adran 53, Deddf Priffyrdd 1980) neu am lai o amser (os yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigon aml) o dan y gyfraith gyffredin.

Dim ond yn achlysurol y mae’r map terfynol a datganiad yn nodi lled llwybr. Ond, weithiau mae tystiolaeth ddogfennol ddibynadwy sy’n dangos y lled. Os bydd y llwybr yn drac neu’n lôn ddofn, y lled fel arfer fydd y lled gyfan rhwng y gwrychoedd, waliau neu gloddiau.

Mae modd i’r perchennog tir arallgyfeirio llwybrau troed a llwybrau ceffyl o dan y Ddeddf Priffyrdd 1980 neu o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (os oes rhaid symud yr hawl tramwy am fod datblygiad a chaniatâd cynllunio wedi ei roi). Gwelwch Sut allwn i ofyn am newid yn y map terfynol? i gael rhagor o wybodaeth.

Na. Dywedodd Linley J “Dyletswydd syrfëwyr y briffordd yw cadw’r ffordd sydd wedi’i chlustnodi ar gyfer y cyhoedd mewn cyflwr sy’n ei gwneud yn ddiogel ac yn addas i draffig arferol” Burgess v Bwrdd Lleol Northwich (1880)​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd


Mae’n bosibl newid statws hawl tramwy (e.e. o lwybr troed i lwybr ceffyl), er enghraifft os yw marchogion wedi defnyddio llwybr troed am flynyddoedd lawer heb gael eu herio gan y perchennog tir, efallai y byddai’n bosibl gwneud cais i ‘uwchraddio’r’ llwybr troed i lwybr ceffyl.

Gwiriwch a yw’r llwybr yn hawl tramwy ar y map.
Os yw’r llwybr wedi’i gofnodi fel hawl tramwy cyhoeddus, cysylltwch â’r tîm Hawl Tramwy Cyhoeddus i roi gwybod am y broblem.


Os nad yw’r llwybr wedi’i gofnodi ond mae wedi cael ei ddefnyddio ers 20 mlynedd neu fwy, efallai y byddwch eisiau gwneud cais o dan Adran 53, Deddf Priffyrdd 1980 i hawlio’r llwybr yn gyfreithiol.

Gallai perchennog tir wneud cais am orchymyn gwyro neu ddiddymu, er bod yn rhaid ateb meini prawf penodol ac mae caniatâd i’r cyhoedd gael cyfle i wrthwynebu. Cysylltwch â’r tîm Hawl Tramwy Cyhoeddus i gael rhagor o wybodaeth.  

Os ydych yn defnyddio map Arolwg Ordnans mae’r rhain yn dangos hawliau tramwy cyhoeddus ond efallai bod newidiadau wedi digwydd i’r rhwydwaith ers cyhoeddi’r map Arolwg Ordnans. Mae’n syniad da i wirio’r map terfynol a’r datganiad, ond os ydych wedi bod yn defnyddio’r llwybr am nifer o flynyddoedd efallai y byddai’n bosibl ei ychwanegu at y map terfynol a’r datganiad.

Nid yw’r map terfynol a’r datganiad yn gyflawn bob amser Efallai bod rhai hawliau tramwy heb eu cynnwys ar y map ac efallai bod llwybrau eraill wedi eu cofnodi’n anghywir gyda’r statws anghywir. Gallai’r gwallau yma gael eu cywiro drwy orchymyn addasu; sef proses ffurfiol sy’n addasu’r map terfynol a’r datganiad. Mae’r Cynghorau’n prosesu gorchmynion pan ddônt ar draws tystiolaeth i ddangos bod angen newid. Ond gallai’r cyhoedd gasglu eu tystiolaeth eu hunain a gwneud cais am orchymyn. Yn aml iawn, mae hyn yn cynnwys tystiolaeth y defnyddiwr, gan bobl sydd wedi defnyddio llwybr; a thystiolaeth ddogfennol, copïau o fapiau a dogfennau hanesyddol.

Mae’r Map Terfynol a’r Datganiadau’n cael eu cadw yn Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW. Cysylltwch â’r tîm Hawl Tramwy Cyhoeddus

Nac ydyn. Mae llwybr sydd wedi ei ddangos ar fap Arolwg Ordnans yn dangos nodwedd ffisegol a arolygwyd ac nid yw’n rhoi statws cyfreithiol i lwybrau heb eu cofrestru.



​ ​​
© 2022 Cyngor Caerdydd