Rydym bellach yn derbyn ffurflenni cais ar gyfer recriwtio aelodau FfMLl Caerdydd nesaf ar gyfer 2020-2023.
Pwy Ydym Ni
Mae Cyngor Caerdydd yn gwahodd unigolion sydd â diddordeb mewn gwneud cais i fod yn aelod o’r Fforwm Mynediad Lleol (FfMLl). Mae’r FfMLl yn gorff statudol a ffurfiwyd fel gofyniad Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae’r fforwm yn bodoli ers mis Hydref 2003 ond mae’n rhaid iddo ail-gyfansoddi ei hun bob tair blynedd fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Mae’r fforwm wedi’i ffurfio o wirfoddolwyr sy’n cynnwys amrywiaeth o bobl o bob rhan o Gaerdydd, gan gynnwys tirfeddianwyr, defnyddwyr mynediad megis cerddwyr, beicwyr a marchogion a’r rhai sy’n cynrychioli diddordebau eraill fel iechyd a chadwraeth.
Mae’n ofynnol i’r fforwm gyfarfod rhwng dwy a phedair gwaith y flwyddyn. Mae aelodaeth y Fforwm yn wirfoddol a bydd aelodau yn gallu hawlio treuliau teithio rhesymol. Cynhelir cyfarfodydd mewn gwahanol leoliadau ledled dinas Caerdydd ac fel arall mae’n cynnwys ymweliad â’r safle i weld a thrafod project lleol neu ystyried ail-alinio llwybrau a mynediad gwell o fewn datblygiad newydd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Fforwm Mynediad Lleol Cyfoeth Naturiol CymruDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) Caerdydd 2020-2030
Mae’r CGHT yn gynllun 10 mlynedd wedi’i flaenoriaethu er mwyn gwella rhwydwaith hawliau tramwy Caerdydd a’r bwriad yw i fod o fudd i bob defnyddiwr - cerddwyr, beicwyr, marchogion a defnyddwyr oddi ar y ffordd, yn ogystal â phobl sydd â phroblemau gyda’u golwg a symudedd. Mae’r cynllun yn rhestru’r prif ddulliau y bydd yr awdurdod priffyrdd yn nodi, blaenoriaethu a chynllunio gwelliannau i’r rhwydwaith presennol.
Bydd y fforwm yn gweithio gyda Thîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Cyngor ac yn helpu i gynghori Swyddogion i sicrhau bod gwaith a wneir o fudd i bob defnyddiwr ar gyfer ymarfer corff iach a lles meddyliol, rheolaeth well ar y rhwydwaith ac y caiff strategaethau a nodau allweddol eu cyflawni.
Dewch yn Aelod o’r FfMLl
Gwnewch gais os hoffech chi fod yn rhan o’r fforwm, er mwyn dylanwadu ar fentrau newydd, amlygu meysydd i’w gwella a helpu i gynghori’r Cyngor ar ddarparu CGHT Caerdydd 2020-2030.
Lawrlwythwch y cais (97kb DOC)
Dychwelwch eich ffurflen ar ôl ei chwblhau erbyn 6 Ebrill 2020:
Cyfeiriad: Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus , Cyngor Caerdydd, Ystafell 301, Neuadd y Sir, Caerdydd CF10 4UW.
E-bost: hawliautramwycyhoeddus@caerdydd.gov.uk
I ofyn i gais gael ei bostio atoch, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion uchod neu ffoniwch y Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus: 029 2233 0206