Os byddwch chi'n anwybyddu'r Hysbysiad Tâl Cosb (HTC), bydd y gosb yn cynyddu a byddwn yn gwneud cais i’r Ganolfan Gorfodi Traffig gofrestru'r swm sy'n ddyledus fel dyled. Bydd gwarant yn cael ei chyhoeddi a bydd costau cyfreithiol yn cael eu hychwanegu. Mae gwarant yn caniatáu inni gyhoeddi Rhybudd Gorfodi a chymryd camau adennill.
Er mwyn ein hatal rhag cymryd camau adennill ac ychwanegu costau pellach, bydd angen i chi dalu'r HTC yn llawn, gan gynnwys unrhyw gostau sydd eisoes wedi'u hychwanegu. Os na allwch dalu'r tâl llawn sy'n weddill, gallwch drefnu taliad gyda ni.
I gysylltu â ni, gallwch:
Gallwch osgoi camau adennill trwy gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.
Os na fyddwch yn gwneud taliad llawn neu'n trefnu ad-daliadau gyda ni, byddwn yn cymryd camau adennill a bydd costau pellach yn cael eu hychwanegu.
Ffioedd gorfodi
£75
| Codir y ffi hon arnoch os na fyddwch yn talu.
Mae'r ffi yn angenrheidiol er mwyn i'ch dyled gael ei throsglwyddo i Asiantau Gorfodi. |
£235
| Codir tâl arnoch os bydd yn rhaid i Asiantau Gorfodi ymweld â chi yn eich eiddo.
Os yw'r ddyled yn fwy na £1,500.00, codir 7.5% arall arnoch.
|
£110
| Bydd yn rhaid i chi dalu'r ffi hon os bydd yn rhaid i Asiantau Gorfodi dynnu nwyddau o'ch eiddo a'u gwerthu mewn arwerthiant. Os yw'r ddyled yn fwy na £1,500.00, codir 7.5% arall arnoch.
|
Os yw eich dyled yn cael ei thrin gan un o'n hasiantaethau cysylltiedig, bydd angen i chi gysylltu â nhw i drafod ad-dalu.
Bristow and Sutor Enforcement Agency
Bartleet Road, Washford, Redditch, Worcs, B98 0FL
Ffôn: 033 0390 2010
Asiantaeth Gorfodi Sifil Excel
Marine House, 2 Marine Road, Bae Colwyn, Conwy, L29 8PH
Ffôn: 0330 363 9988
Marston Holdings
Marston, PO BOX 12019, Epping, CM16 9EB
Ffôn: 0333 320 1822
Os yw eich dyled yn cael ei thrin gan Asiant Gorfodi Cyngor Caerdydd, cysylltwch â ni.
Bydd manylion cyswllt yr asiant ar yr Hysbysiad Presenoldeb a adewir yn eich eiddo.
Sut i apelio yn erbyn gwarant
Unwaith y byddwch wedi derbyn Hysbysiad Gorfodi, rydych wedi colli'r hawl i apelio yn erbyn y drosedd wreiddiol a byddwch ond yn apelio yn erbyn y gwarant.
Ar hyn o bryd mae pedwar rheswm posibl dros apelio:
- Ni chawsoch yr Hysbysiad i Berchennog neu Hysbysiad Tâl Cosb.
- Apeliais yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod Lleol i wrthod fy sylwadau, o fewn 28 diwrnod i gyflwyno’r hysbysiad gwrthod, ond heb gael ymateb i fy apêl.
- Cyflwynais sylwadau am yr hysbysiad tâl cosb i’r awdurdod gorfodi perthnasol o fewn 28 diwrnod i gyflwyno’r Hysbysiad i Berchennog, ond heb gael hysbysiad gwrthod
- Mae'r tâl cosb wedi'i dalu'n llawn.
Gallwch gael y ffurflenni apelio trwy gysylltu â'r Ganolfan Gorfodi Traffig.
Ffôn: 0300 123 1059
Ffôn: 0160 461 9450
5ed Llawr
St Katharine's House
21-27 St Katharine's Street
Northampton
NN1 2LH
Fel arall, ewch i GOV.UK i lawrlwytho'r ffurflenni perthnasol. Bydd angen i chi lenwi'r ffurflenni
TE7 a
TE9 a defnyddio'r rhif rhybudd HTC sy'n dechrau gyda QC.
Mae'n rhaid i chi anfon y ffurflenni i'r Ganolfan Gorfodi Traffig i gael eu prosesu.