Gallwch gasglu map beicio mewn sawl lleoliad ledled y ddinas, gan gynnwys llyfrgelloedd a chanolfannau dysgu cymunedol.
Beicio OVO
Mae Beiciau OVO, sy'n cael eu pweru gan nextbike, yn system rhannu beiciau gyda thros 1,000 o feiciau safonol i'w rhentu ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Gellir rhentu beiciau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos o'ch gorsaf swyddogol agosaf. Mae e-feiciau hefyd ar gael i'w rhentu.
Sut mae rhentu Beic OVO
Gallwch rentu Beiciau OVO drwy ymweld ag un o orsafoedd beiciau ac e-feiciau OVO yng Nghaerdydd.
I ddatgloi Beic OVO, gallwch naill ai sganio’r cod QR neu nodi rhif y beic yn yr ap.
Rhaid dychwelyd beiciau OVO i orsaf swyddogol. Rhaid dychwelyd e-feiciau OVO i orsaf drydanol swyddogol.
Os na chaiff beiciau eu dychwelyd i'w gorsafoedd cywir, bydd ffi o £20 ar eich cyfrif.
Beicffyrdd
Mae Cyngor Caerdydd yn datblygu cynigion ar gyfer pum Beicffyrdd i gynorthwyo a hyrwyddo beicio ar gyfer pobl o bob oedran a gallu.
Bydd y llwybrau a gynigir yn cysylltu cymunedau â phrif gyrchfannau trwy’r ddinas, yn cynnwys canol y ddinas a’r Bae.
Cysylltu â ni