Rydym yn defnyddio TCC am sawl rheswm yng Nghaerdydd, er enghraifft:
- i atal a chanfod trosedd, ac
- i gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig drwy dechnoleg Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig.
Mae ein TCC yn dal delweddau a recordiadau byw o breswylwyr, ymwelwyr a gweithwyr ledled y ddinas.
Pwy sy'n gweithredu ac yn monitro'r camerâu TCC?
- Dim ond gweithwyr hyfforddedig perthnasol Cyngor Caerdydd a all weithredu a monitro TCC.
- Dim ond y rheiny sydd â diben cyfreithlon a fydd yn cael mynediad i'r ystafelloedd rheoli.
Bydd y gweithredwyr monitro TCC yn gyfrifol am gydymffurfio â Pholisi TCC Cyngor Caerdydd a'r cod ymarfer perthnasol.
Pwy alla i gysylltu â nhw i gael cyngor neu gwyno am TCC?
Gallwch gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW