Defnyddir TCC am sawl rheswm o amgylch Ardal Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, atal a chanfod trosedd a chyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig drwy dechnoleg Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig.
Ledled ardal Caerdydd mae TCC wedi'i osod sy'n tynnu delweddau ac yn recordio fideos o drigolion, ymwelwyr a gweithwyr o amgylch y ddinas.
Sut i wneud cais am gopïau o TCC
Gellir gwneud ceisiadau am TCC am amryw o resymau. Gall aelod o'r cyhoedd, yr heddlu neu gwmni sy'n cynrychioli aelod o'r cyhoedd, e.e., cwmnïau yswiriant/cyfreithwyr, wneud hyn. Cedwir fideos am ddim mwy na 31 diwrnod.
Mae'n bwysig nodi nad yw pob camera TCC yn ardal Caerdydd yn eiddo i Gyngor Caerdydd sy'n golygu efallai na fyddwn bob amser yn berchen ar y fideos.
Sut i wneud cais am TCC
Gwneud Cais am Fideo TCC
Pa wybodaeth y bydd angen i chi ei rhoi?
- Wrth wneud cais, ceisiwch gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl fel dyddiad/amser a lleoliad penodol ynghyd â disgrifiad ohonoch chi’ch hun/manylion y digwyddiad.
- Wrth wneud cais uniongyrchol am fideo TCC ohonoch chi'ch hun, bydd gofyn i chi gyflwyno prawf adnabod h.y. copi o'ch pasbort neu’ch trwydded yrru.
- Os yw cyfreithiwr/cwmni yswiriant yn gwneud y cais ar eich rhan, bydd yn gofyn i chi roi caniatâd iddo gael mynediad at y fideo ohonoch chi a/neu'ch cerbyd.
Pwy all wneud cais am fideo TCC?
- Bydd cwmnïau sy'n cynrychioli aelodau o'r cyhoedd yn gallu gwneud cais am gopïau o TCC, os recordiwyd y digwyddiad ar gamera.
- Aelodau o'r cyhoedd - Mae gennych yr hawl i wneud cais am fideo TCC ohonoch chi'ch hun. Gallwch wneud hyn ar lafar neu’n ysgrifenedig. Efallai y bydd amgylchiadau lle na allwn roi'r fideo i chi, er enghraifft, pan fo modd adnabod unigolion eraill yn y fideo.
- Yr heddlu – gall yr heddlu wneud cais am fideo TCC os recordiwyd trosedd ar gamera.
Hysbysiad Preifatrwydd TCC
- Yn rhan o'n rhwymedigaethau dan GDPR y DU, mae angen i ni roi gwybodaeth i chi yn esbonio sut a pham rydym yn prosesu eich gwybodaeth mewn perthynas â fideos TCC. I gael mwy o fanylion, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd TCC.
 phwy y gallaf gysylltu i gael cyngor neu i gwyno am TCC?
Gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bost neu drwy'r post fel a ganlyn:
E-bost: diogeludata@caerdydd.gov.uk
Cyfeiriad Post: Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Ble mae camerâu TCC Cyngor Caerdydd wedi'u lleoli?
Pwy sy'n gweithredu ac yn monitro'r camerâu TCC?
Dim ond gweithwyr hyfforddedig perthnasol Cyngor Caerdydd all weithredu a monitro TCC. Dim ond y rheiny sydd â diben cyfreithlon fydd yn cael mynediad i'r ystafelloedd rheoli. Bydd y gweithredwyr monitro TCC yn gyfrifol am gydymffurfio â Pholisi TCC Cyngor Caerdydd a'r cod ymarfer perthnasol.
Pa fathau o TCC y mae Cyngor Caerdydd yn eu defnyddio?
- Camerâu gwyliadwriaeth TCC
- Camerâu a gaiff eu gwisgo ar y corff
- Technoleg Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig
- Camerâu Borden Flaen