Mae’r celfyddydau perfformio yn ymarfer y corff, y meddwl a’r emosiynau. Yn ogystal â’r mwynhad a geir o ganu, dawnsio a chreu cerddoriaeth, mae’r celfyddydau perfformio’n gyfrwng pwerus i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn amrywiaeth o bynciau. Nod y rhaglen yw ymgysylltu â disgyblion mewn ffordd sy’n eu galluogi i fod yn greadigol, yn fynegiannol ac i fwynhau dysgu trwy eu perfformiadau eu hunain a pherfformiadau pobl eraill.
Mae’r rhaglen gerddoriaeth a symud yn ysbrydoledig, yn hwyliog ac yn egnïol. Gall y rhaglen wella iechyd meddwl a lles disgyblion wrth gefnogi datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol plant.
Buddion a chanlyniadau’r cwrs
- Deall sut y gellir defnyddio cerddoriaeth a symud er mwyn datblygu’n gymdeithasol ac emosiynol.
- Dysgu sut i reoleiddio eu hemosiynau trwy symbyliadau allanol.
- Gweithio ar y cyd ac yn annibynnol i greu symudiadau rhydd.
- Deall yr effaith y mae symud yn ei chael ar ddatblygiad emosiynol.
- Deall pwysigrwydd iechyd corfforol ac emosiynol.
Ble caiff y cwrs ei gynnal?
Hyb Butetown,
Plas Iona,
Stryd Bute,
Butetown,
CF10 5HW.