Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyhoeddiadau

Cyhoeddi Hysbysiad Statudol Cyfreithiol


Ystyriwyd adroddiad Gabinet (1.88mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd gan Gabinet y Cyngor ar 26 Ionawr 2015 a oedd yn cyflwyno argymhellion yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn ar gynnig i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ychwanegol yng Nghyncoed, Pen-y-lan a rhannau o ardal Plasnewydd. 

Mae’r Cabinet wedi cytuno y caiff y Cyngor fwrw ymlaen â’r cam nesaf a chyhoeddi Hysbysiad Statudol Cyfreithiol i:
  • sefydlu ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg newydd â 2 Ddosbarth Mynediad ar gyfer plant 3-11 oed ar ran o safle Canolfan Addysg Gymunedol Howardian, Hammond Way, Caerdydd CF23 9NB o fis Medi 2015.


Mae’r hysbysiad yn caniatáu cyfnod o 28 diwrnod o’r dyddiad cyhoeddi i gyflwyno gwrthwynebiadau ffurfiol i’r cynigion.

Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Prif Swyddog Addysg, Cyngor Sir Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.

Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at y Prif Swyddog Addysg, Cyngor Caerdydd, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol: 

Rhaid i unrhyw wrthwynebiad a anfonir drwy’r post neu dros e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad y sawl sy’n gwrthwynebu.​
© 2022 Cyngor Caerdydd