Ein nod yw gwella safonau a pherfformiad ysgolion i bobl ifanc sy'n cael eu magu yn Nwyrain Caerdydd. Rydym am wneud newidiadau a gwelliannau'n gyflym, fel y gall pobl ifanc yn yr ardal gyflawni eu llawn botensial, sef y rheswm pennaf dros sefydlu Partneriaeth Gwella Addysg.
Nod Partneriaeth Gwella Addysg neu ‘PGA' yw codi safonau addysg yn gyflym drwy gynnwys nifer o sefydliadau sy'n arbenigo yn y maes. Mae'n cynnig dull newydd o weithio yng Nghaerdydd yn ogystal â bod yn Bartneriaeth sydd y cyntaf o'i bath yng Nghymru.
Y syniad yw bod yr holl ddarparwyr addysg lleol ynghyd ag ystod eang o asiantaethau a phartneriaid cymunedol yn gallu gweithio gyda'i gilydd, gan gyfrannu eu harbenigedd penodol at y gwaith o wella safonau addysg.
Bydd y Bartneriaeth yn gweithio gyda chynrychiolwyr o'r meysydd canlynol i ddechrau gwneud gwahaniaeth go iawn:
- Ysgolion cynradd ac uwchradd a darparwyr addysg ôl-16
- Y Bwrdd Iechyd
- Gwasanaethau Plant
- Tîm Rheoli Cymdogaeth
- Dechrau'n Deg
- Yr Heddlu
Ysgol uwchradd gyfoes newydd
Y bwriad yw codi ysgol uwchradd gyfoes newydd sbon gyda darpariaeth academaidd a galwedigaethol 16+ yn lle ysgolion uwchradd Llanrhymni a Thredelerch.
Bydd gofyn codi'r ysgol newydd ar safle addas yn y gymuned, gwaith a fydd yn destun ymgynghoriad llawn gyda rhieni, ysgolion, disgyblion a'r gymuned ehangach. Bwriedir agor yr ysgol newydd ym mis Medi 2016.
Rhagor o wybodaeth am PGA