Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiadau cosb benodedig am golli'r ysgol

​Mae lleihau absenoldeb anawdurdodedig o'r ysgol yn flaenoriaeth allweddol yn genedlaethol ac yn lleol oherwydd bod colli'r ysgol yn niweidio lefelau cyrhaeddiad disgybl, yn amharu ar arferion yr ysgol a dysgu eraill. Gall triwantiaeth hefyd wneud disgybl yn agored i ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau ieuenctid.
 
Mae hysbysiadau cosb yn ategu'r sancsiynau presennol dan Adran 444, Deddf Addysg 1996 neu Adran 36, Deddf Plant 1989 i orfodi presenoldeb yn yr ysgol lle y bo'n briodol. 
 

 
Dan ddeddfwriaeth gyfredol, mae rhieni/gofalwyr yn cyflawni trosedd os yw plentyn yn methu â mynychu'r ysgol yn rheolaidd a bod yr achosion hynny wedi'u hystyried yn rhai anawdurdodedig (absennol heb reswm dilys). 
 
Yn dibynnu ar amgylchiadau, gall achosion o'r fath arwain at erlyniad dan Ddeddf Addysg 1996.
 
Mae Hysbysiad Cosb Benodedig yn ddewis amgen i erlyniad, ac nid oes angen mynd i’r llys. Mae talu Hysbysiad Cosb Benodedig yn galluogi rhieni/gofalwyr i osgoi'r posibilrwydd o gollfarn droseddol.
Mae HCB yn £60 os caiff ei dalu o fewn 28 diwrnod i dderbyn yr hysbysiad, gan godi i £120 os caiff ei dalu ar ôl 28 diwrnod (ond o fewn 42 diwrnod o'i dderbyn). Os na chaiff HCB ei dalu'n llawn ar ôl 42 diwrnod, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol naill ai:
 
  • Erlyn y rhieni/gofalwyr yn y ffordd arferol drwy ddefnyddio adran 444(1) ac (1A) o Ddeddf Addysg 1996) neu 
  • Tynnu'r HCB (dan amgylchiadau cyfyngedig fel y'u nodir yn y Cod Ymarfer).
Cyfrifoldeb yr ysgolion/Unedau Cyfeirio Disgyblion a/neu'r heddlu yw gofyn bod y Gwasanaeth Lles Addysg yn cyflwyno HCB a bydd y ceisiadau hynny ond yn cael eu hystyried lle bo tystiolaeth o absenoldeb anawdurdodedig oherwydd yr amgylchiadau canlynol:  
 
  • ​Lle bod o leiaf 10 sesiwn anawdurdodedig (5 diwrnod ysgol) yn y tymor presennol (nid oes angen i'r rhain fod yn olynol);
  • Disgyblion yn cyrraedd yn hwyr yn gyson ar ôl y sesiwn gofrestru h.y. mwy na 10 sesiwn yn y tymor presennol; (Argymhellir bod cofrestrau yn cael eu cadw ar agor am dri deg munud);
  • Lle bo rhiant/gofalwr wedi methu â chysylltu â'r ysgol a/neu'r Gwasanaeth Lles Addysg mewn ymdrech i wella presenoldeb ond nid yw sancsiynau llys wedi'u cyflwyno;
  • Cyfnod o absenoldeb o'r ysgol oherwydd gwyliau na chafodd eu hawdurdodi gan yr ysgol;
  • Mae disgybl wedi dod at sylw'r heddlu yn ystod oriau ysgol ac yn absennol o'r ysgol heb reswm derbyniol.
 
Ni fyddwn byth yn gweithredu fel hyn oni fo'n rhaid, a byddai'n well gennym weithio gyda rhieni/gofalwyr i wella presnoldeb heb orfod cymryd camau gorfodi. Ystyrir bod presenoldeb yn hynod bwysig a byddwn yn defnyddio ein pwerau os mai dyma'r unig ffordd o gael eich plentyn i fynychu'r ysgol.
Unwaith y bydd y Gwasanaeth Lles Addysg yn derbyn cais, byddwn yn:
 
  • ​Anfon rhybudd ysgrifenedig ffurfiol at y rhiant/gofalwr yn rhoi gwybod y gall dderbyn hysbysiad cosb benodedig a'r rheswm pam;
  • Gosod cyfnod o 15 diwrnod i'r rhiant/gofalwyr ymateb. Yn ystod y cyfnod o 15 diwrnod, ni ddylai'r disgybl gael unrhyw absenoldebau anawdurodedig o'r ysgol;
  • Ar ddiwedd y 15 diwrnod, bydd hysbysiad cosb yn cael ei gyflwyno drwy bost dosbarth cyntaf os credir bod yr holl ffeithiau'n briodol.
 
Pan fydd ysgol yn gofyn i Hysbysiad Cosb Benodedig gael ei gyflwyno fel ymateb i gyfnod o wyliau anawdurdodedig, ni fydd y llythyr ysgrifenedig ffurfiol a'r cyfnod gwella o 15 diwrnod yn berthnasol.
Nac oes. Nid oes hawl statudol i apelio unwaith y bydd hysbysiad wedi'i gyflwyno. Os credwch fod hysbysiad wedi'i gyflwyno i chi mewn camgymeriad, gallwch ofyn iddo gael ei dynnu'n ôl. Os na chaiff ei dynnu'n ôl, mae'n rhaid i chi dalu'r cosb neu gallwch gael eich erlyn am fethu â sicrhau presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol.
Mae angen i chi wybod na allwch dalu hysbysiadau cosb yn rhannol neu drwy randaliadau.

 

Talu ar-lein 

 
Defnyddiwch ein system dalu ar-lein ddiogel i dalu eich HCB.
 
 
Bydd angen y canlynol arnoch:

  • Eich Rhif Cosb Benodedig – yn dechrau gyda SNA ar yr ochr chwith ar frig y dudalen drosodd
  • Eich Cerdyn Debyd neu Gredyd


Siec

 
Anfonwch daliadau drwy siec gyda'ch enw, eich cyfeiriad a'ch Rhif Hysbysiad Cosb Benodedig (drosodd) ar gefn eich taliad i:
 
Cyngor Caerdydd
Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3WD
 
Dylai sieciau gael eu croesi a'u gwneud yn daladwy i Gyngor Caerdydd. 
Ni dderbynnir sieciau wedi’u hôl-ddyddio. 
Peidiwch ag anfon arian drwy’r post. ​

Gallwch. Ynghyd ag ysgol eich plentyn, byddwn yn rhoi cyngor a chymorth i chi os bydd angen help arnoch i wella presenoldeb eich plentyn.
 
Mae'n bwysig iawn eich bod yn siarad â'r ysgol, Swyddog Presenoldeb yr Ysgol neu'r Swyddog Lles Addysg ar gyfer ysgol eich plentyn ar y cyfle cynharaf posibl os oes gennych unrhyw bryderon am bresenoldeb eich plentyn.​

​​Mae rhagor o wybodaeth ar gael am weithredu'r cod ymddygiad hwn a'r hysbysiadau cosb o: 

 

Y Gwasanaeth Lles Addysg
Ystafell 422
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW​

Cysylltu â ni

029 2087 3619


 
© 2022 Cyngor Caerdydd