Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

A oes Angen Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig ar fy Mhlentyn?

​​​​​​​​​​​​Beth yw Asesiad Statudol?


Os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig (AAA), bydd ei athrawon yn cynllunio’i addysg i’w gefnogi. I wneud hyn mae athrawon yn defnyddio’r canllawiau sydd wedi eu cyhoeddi mewn dogfen a elwir y Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig. Mae’r canllawiau hyn yn rhoi cyngor ynghylch canfod a oes gan blant AAA, sut i’w hasesu a sut i’w helpu.

Mae’r rhan fwyaf o blant ag AAA yn datblygu gyda’r cymorth sydd eisoes ar gael yn yr ysgol. Gall hyn gynnwys cymorth dysgu a help gan amryw o weithwyr proffesiynol, fel Athrawon Arbenigol, Seicolegwyr Addysg a Therapyddion Iaith a Lleferydd.

Mewn nifer fechan iawn o achosion, gallai fod angen help arbennig ar blentyn na fydd ar gael yn yr ysgol. Os felly, efallai y bydd Cyngor Caerdydd yn penderfynu cynnal Asesiad Statudol. Ymchwiliad trylwyr a manwl yw hwn i ddarganfod beth yw anghenion addysgol arbennig eich plentyn, a pha help arbennig fydd ei angen arno.

Mae amserlen asesiad o’r fath i’w gweld ar gefn y daflen hon. Mae’r broses gyfan fel arfer yn para tua 26 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn cewch lythyrau gan y Tîm Gwaith Achosion AAA, a gofynnir i chi lenwi a dychwelyd ambell ffurflen. Os hoffech help gyda hyn – ar unrhyw adeg yn ystod y broses – mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Gwaith Achosion AAA gan ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn y daflen hon.

Pwy all ofyn am Asesiad Statudol?


Gall y rhiant neu gofalwr ac ysgol eich plentyn ofyn am Asesiad Statudol. Rhaid iddo fod yn gais ysgrifenedig. Os yw’r ysgol am ofyn am asesiad, dylai bob amser siarad â chi yn gyntaf. Gall yr Awdurdod Iechyd Lleol hefyd wneud cais am asesiad, os yw o’r farn bod angen un. Dylai’r AILl hefyd siarad â chi’n gyntaf cyn gwneud hyn.

Os hoffech wneud cais am Asesiad Statudol byddai’n syniad da siarad ag athro dosbarth eich plentyn neu Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol yn gyntaf.


Beth sy’n digwydd ar ôl gwneud cais am Asesiad Statudol?​


  • Ar ôl i ni gael y cais, mae gan Gyngor Caerdydd chwech wythnos i benderfynu p’un a fydd yn cynnal Asesiad Statudol ai peidio.
  • Bydd ein Panel AAA yn penderfynu drwy ystyried yr holl wybodaeth a roddwyd, a byddan nhw naill ai yn bwrw ati i gynnal Asesiad Statudol, yn gofyn am fwy o fanylion, neu’n penderfynu y gellir parhau i ddiwallu anghenion eich plentyn drwy’r cymorth sydd ar gael yn yr ysgol. 
  • Byddwn yn eich hysbysu’n ysgrifenedig am ein penderfyniad o fewn saith diwrnod gwaith, ac yn cynnig dyddiad i chi gwrdd ag aelod o’r Tîm Gwaith Achosion AAA i drafod y rhesymau dros ein penderfyniad. 
  • Pan benderfynir i beidio ag asesu’ch plentyn, byddwn yn trafod y camau nesaf gyda chi, er mwyn sicrhau y caiff eich plentyn y cymorth sydd ei angen arno yn yr ysgol.


Beth sy’n digwydd yn ystod yr Asesiad Statudol?


Fel rhiant, mae’ch barn chi yn hynod o bwysig. Bydd unrhyw farn sydd gan eich plentyn yn bwysig hefyd. Os bydd yr asesiad yn mynd rhagddo, byddwn yn gofyn am gyngor oddi wrthych chi, eich plentyn, yr ysgol, Seicolegydd Addysg, meddyg, y gwasanaethau cymdeithasol (er mai dim ond os ydynt yn adnabod eich plentyn y byddan nhw’n rhoi cyngor), ac unrhyw un arall rydym o’r farn y gallai roi darlun clir o anghenion eich plentyn.

Byddwch chi yn gallu mynd gyda’ch plentyn i unrhyw gyfweliad, apwyntiad meddygol neu brawf arall a wneir fel rhan o’r asesiad. Mae’n bwysig iawn cadw pob apwyntiad, a bydd methu â mynd i unrhyw apwyntiad yn achosi oedi wrth gynnal yr asesiad.


Beth sy’n digwydd ar ôl i’r Asesiad Statudol gael ei gwblhau?​​


Mae gennym 10 wythnos i gasglu’r holl wybodaeth a phenderfynu p’un a ydym am gyhoeddi Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig neu gyhoeddi Nodyn yn Lle Datganiad.

Os penderfynwn y dylid llunio datganiad, cewch gopi o’r Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig arfaethedig ymhen pythefnos i wneud y penderfyniad. Cewch hefyd gopi o’r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr asesiad a thaflen i’ch helpu i ddeall y datganiad arfaethedig.

Os mai peidio ag ysgrifennu datganiad yw’r penderfyniad, bydd Nodyn yn Lle Datganiad yn cael ei anfon atoch. Bydd hwn yn egluro’r rhesymau dros beidio â chyhoeddi Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig ac yn dweud wrthych sut y dylai anghenion eich plentyn gael eu diwallu yn yr ysgol, gyda gwasanaethau y gall yr ysgol eu defnyddio yn ôl yr angen. Byddwch hefyd yn derbyn taflen i’ch helpu i ddeall y Nodyn yn Lle Datganiad.

​​​​Pwy y dylwn gysylltu â nhw am help neu gymorth pellach?


  • ​Y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn Ysgol neu Lleoliad eich plentyn. Cysylltwch â swyddfa’r ysgol i gael gwybod pwy yw Cydlynydd ADY ysgol eich plentyn.
  • Eich Swyddog Gwaith Achos, sy’n aelod o’r Tîm Gwaith Achos AAA yn Neuadd y Sir Ffôn: 029 20872731
  • SNAP Cymru sy’n cynnig Gwasanaeth Annibynnol Partneriaeth â Rhieni. Ffôn: 0845 120 3730.


© 2022 Cyngor Caerdydd