Caiff disgyblion cynradd ac uwchradd brydau ysgol am ddim os yw eu teulu’n cael:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n Gysylltiedig ag Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Elfen Gwarant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Credyd Treth Plant ag incwm blynyddol sy’n llai na £16,190
- Credyd Cynhwysol os mae enillion net y teulu yn llai na £7400
*Ni all teuluoedd sy’n cael Credyd Treth Gwaith fanteisio ar brydau ysgol am ddim.
Unwaith rydych wedi danfon cais i mewn, byddwch yn cael eich hysbysi yn ysgrifenedig o’r canlyniad.
Os ydych chi’n gymwys am brydau ysgol am ddim, caiff ysgol eich plentyn ei hysbysu fel y gall ddiweddaru ei gofnodion.
Caiff prydau ysgol am ddim eu dyfarnu i bob plentyn ar wahân ac nid i’r cartref.
Nid oes angen i chi ailymgeisio os yw eich plentyn yn symud i ysgol arall yn y fwrdeistref. Pan gawn ein hysbysu gan ysgol newydd eich plentyn ei fod yn ddisgybl yno, byddwn yn diwygio ein cofnodion ac yn hysbysu’r ysgol o’ch cymhwysedd.
Newidiadau o 1 Ebrill 2019
Bydd unrhyw ddisgybl sy’n gymwys i brydau ysgol am ddim ar y 1 Ebrill 2019 yn cael ei gymhwysedd wedi ei ddiogelu. Bydd hyn yn berthnasol i’r holl ymgeiswyr tan ddiwedd lledaenu Credyd Cynhwysol (sydd wedi ei amserlennu ar hyn o bryd yn Mawrth 2025), boed eu hamgylchiadau’n newid ai peidio.
Bydd unrhyw ddisgybl sy’n dyfod yn gymwys o dan y meini prawf a ddiwygiwyd yn ystod y cyfnod lledaenu Credyd Cynhwysol (o 1 Ebrill 2019 tan Mawrth 2025) hefyd yn cadw ei gymhwysedd nes diwedd lledaenu Credyd Cynhwysol, boed eu hamgylchiadau’n newid ai peidio.
Unwaith y bydd y gwaith o gyflwyno’r Credyd Cynhwysol wedi’i gwblhau, bydd y cynllun diogelu trosiannol yn parhau nes bydd y plentyn a ddiogelir dod at ddiwedd ei gyfnod addysg presennol, fel gorffen yn yr ysgol gynradd neu uwchradd.
I gael rhagor o wybodaeth am brydau ysgol am ddim neu laeth am ddim.
Cysylltu â ni
Ffôn: 029 2087 1071