Taliadau rhent
Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau’n gweithredu fel arfer, ond dylai Tenantiaid sy’n cael problemau â thalu rhent ddal i gysylltu â ni. Gall staff gynnig cyngor a chymorth a byddant yn parhau i helpu tenantiaid drwy’r cyfnod anodd hwn.
Mae eich tenantiaeth yn un wythnosol o ddydd Llun i ddydd Sul bob wythnos. Mae rhent yn daladwy ar ddydd Llun bob wythnos, neu ran o wythnos, pan fyddwch yn meddiannu eich cartref.
Hent ydw i’n ei dalu?
Bydd eich cytundeb tenantiaeth yn cadarnhau swm y rhent sy’n daladwy bob dydd Llun ar gyfer eich eiddo. Mae’n bosibl y byddwch am
hawlio Budd-dal Tai a allai leihau faint o rent y bydd yn rhaid i chi ei dalu.
Talu'ch rhent ar-lein
Defnyddiwch ein system talu ar-lein ddiogel i dalu’ch rhent ar-lein.
Sicrhewch fod gennych rhif eich cyfrif wrth law. Mae'r rhif hwn yn 8 digid o hyd wedi'u dilyn gan lythyren.
Sweipgerdyn
Anfonir sweipgerdyn atoch pan fydd eich tenantiaeth yn dechrau. Gall gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i’ch cyrraedd. Gallwch ddefnyddio eich sweipgerdyn i dalu rhent yn Swyddfa’r Post. Os ydych yn dewis y dull talu hwn bydd angen i chi dalu erbyn bore dydd Mercher er mwyn i’ch taliad gyrraedd eich cyfrif rhent mewn pryd.
Gallwch ddefnyddio eich sweipgerdyn i dalu mewn
mannau PayPoint mewn siopau a garejys hefyd. Fodd bynnag, gall y taliadau hyn gymryd hyd at bythefnos i gyrraedd eich cyfrif rhent.
Dros y ffôn
System Dalu Awtomataidd – ffoniwch 029 2044 5900. Bydd angen eich rhif cyfrif arnoch. Gellir talu â cherdyn debyd neu gredyd.
Archeb Sefydlog
Gallwch gael ffurflen Archeb Sefydlog gan eich Swyddog Cyllid. Ffoniwch 029 2053 7350.
Drwy’r Post
Gellir anfon sieciau i Dîm Cyllid Cyngor Caerdydd, Blwch SP 6000, Caerdydd, CF11 0WZ. Sicrhewch eich bod yn nodi rhif y cyfrif rhent ar gefn y siec. Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post.
Ôl-ddyledion Rhent Cyn-denantiaid
Os ydych wedi symud heb dalu'r rhent dyledus, gelwir hyn yn ôl-ddyledion cyn-denant. Os oes rhent heb ei dalu, rhaid i chi ei dalu hyd yn oed os nad ydych yn byw yn yr eiddo bellach.
Sicrhewch fod gennych rhif cyfrif rhent tenant blaenorol wrth law. Mae'r rhif hwn yn 8 digid o hyd wedi'u dilyn gan lythyren.