Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Treialu casgliadau ailgylchu ar wahân

Fe wnaethom dreialu casgliadau ailgylchu ar wahân mewn 10,000 o gartrefi ledled Caerdydd.

Yn ystod y treial, adolygwyd:

  • ein cerbydau casglu,
  • y sachau a'r cadis a ddarperir,
  • faint o gartrefi oedd yn defnyddio'r gwasanaeth,
  • ansawdd y deunyddiau sy'n cael eu casglu, ac
  • adborth gan breswylwyr.

Yr hyn y gwnaethom ei ddysgu

  • Roedd ansawdd yr ailgylchu wedi gwella (gostyngodd llygru o 30% i 7%).
  • Dylai sachau llai fod ar gael.
  • Roedd preswylwyr eisiau gallu ailgylchu cartonau (Tetra Pak).
  • Nid oes angen casgliadau gwydr bob wythnos.
  • Roedd ceisiadau am sachau a chadis ychwanegol yn isel.
  • Cymerodd 90% o'r cartrefi ran yn y gwasanaeth newydd.
  • Nid oedd y cerbydau casglu a dreialwyd yn addas.
  • Yr hyn a wnaethom i wella'r gwasanaeth

  • Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, gwnaethom welliannau i'r gwasanaeth cyn ei gyflwyno i rannau eraill o'r ddinas.
  • Byddwn yn gwneud sachau 45L llai ar gael i chi eu casglu.
  • Byddwn yn gwneud cadis gwydr glas ychydig yn llai a byddwn yn eu casglu bob pythefnos.
  • Gallwch roi cartonau (Tetra Pak) yn eich sachau coch bob wythnos.
  • Bydd gan ein cerbydau casglu adrannau ar wahân ar gyfer pob math o ailgylchu.
  • Byddwn yn casglu gwydr ar wahân.

  • Darllenwch ein strategaeth ailgylchu​.

    © 2022 Cyngor Caerdydd