Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynllun peilot ailgylchu ar wahan

​​​​​​​​​​​​​​​Dros y ddwy flynedd nesaf, rydyn ni’n cyflwyno casgliadau ailgylchu ar wahân yng Nghaerdydd.

Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi wahanu eich eitemau ailgylchadwy i gynwysyddion ar wahân yn lle rhoi’r cyfan mewn bag ailgylchu gwyrdd. 

Ar hyn o bryd, nid yw 30% o'r eitemau sy’n cael eu rhoi mewn bagiau ailgylchu gwyrdd yn perthyn yno, gan gynnwys bwyd a chewynnau.

Ni ellir eu hailgylchu ac maent yn mynd i gyfleuster adfer ynni i gael eu llosgi.
​​
Drwy wneud y newidiadau hyn gartref, gall pob un ohonom chwarae ein rhan i leihau effaith newid hinsawdd.​

Ein nodau yw:

  • lleihau’r eitemau sy’n cyrraedd y bagiau anghywir,
  • lleihau defnydd o fagiau gwyrdd untro,
  • cynyddu’r gyfradd ailgylchu i 70% erbyn 2025, a
  • ail-ddefnyddio ac ail-weithgynhyrchu deunyddiau yn lleol.







Dod i arfer â'r casgliadau newydd 





Nid yw’r mwyafrif o fflatiau ag ardaloedd biniau cymunedol wedi’u cynnwys yn y cynllun.  Fodd bynnag, rydym yn treialu biniau ar wahân mewn rhai blociau​.






Bydd cyfnod pontio tra byddwn i gyd yn dod i arfer â'r system newydd. 

Os oes 1 neu 2 eitem anghywir, bydd ein criwiau'n gwagio gweddill eich sach neu'ch cadi, gan adael yr eitemau anghywir hynny ar ôl yn y sach.
 
Os oes gormod o eitemau anghywir yn y sach, efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw adael y sach gyfan ynghyd â sticer pinc​.

Efallai y byddwn yn cysylltu â'ch cartref i gynnig help gyda'r system newydd. 

Defnyddio’r sachau a’r cadi newydd

​​Cewch sachau ailgylchu i’w hailddefnyddio a chadis yn lle bagiau ailgylchu gwyrdd.

Fe welwch y sachau y tu mewn i'r cadi​​. 


​Rydyn ni'n casglu’r sachau bob wythnos.​

Gwiriwch y calendr am eich dyddiadau casglu nesaf.​​



​Mae’r sach goch ar gyfer cynwysyddion, fel poteli plastig, tybiau a hambyrddau a chaniau neu duniau.

Mae’r eitemau y gallwch eu rhoi yn y sach goch yn cynnwys:

  • poteli pethau ymolchi plastig, fel siampŵ a jel cawod, 
  • poteli glanhau plastig, fel poteli cannydd a chwistrellwyr,
  • poteli diodydd plastig, fel poteli llaeth, poteli dŵr a photeli diodydd meddal, 
  • cynwysyddion plastig, fel cynwysyddion ffrwythau, potiau iogwrt a phecynnau cacennau
  • cartonau a chaeadau cludfwyd plastig, 
  • aerosolau, fel chwistrelli diaroglyddion,
  • caniau diodydd metel, fel caniau cwrw a diodydd meddal 
  • tuniau bwyd metel, fel tun ffa a chawl, a
  • ffoil a chartonau ffoil.
 

Mae’r eitemau sydd ddim yn mynd yn y sach goch yn cynnwys: 

  • bagiau siopa plastig,
  • plastigion meddal, fel clingfilm neu ffilm blastig, deunydd lapio caws neu fagiau bara,
  • pecynnau creision,
  • pacedi bwyd anifeiliaid anwes,
  • pecynnau blister plastig, fel ar gyfer meddyginiaethau,
  • brwsys dannedd neu diwbiau past dannedd, 
  • raseli neu lafnau raseli,
  • tanwyr nwy gwag,
  • tuniau nwy gwag,
  • plastigion caled, fel teganau plant,
  • potiau planhigion,
  • cynwysyddion Tupperware.



Mae’r eitemau y gallwch eu rhoi yn y sach las yn cynnwys: 

  • cerdyn a bocsys cardbord,
  • cartonau wyau,
  • tiwbiau papur tŷ bach,
  • cocsys grawnfwyd,
  • bocsys past dannedd,
  • papur, papurau newydd a chylchgronau,
  • amlenni a llythyrau,
  • papur argraffydd a phapur wedi'i rwygo.​












Gellir rhoi carpion papur mewn bag ar wahân a'i roi ar dop y sach glas i'w gasglu. ​


Mae’r eitemau sydd ddim yn mynd yn y sach las yn cynnwys:

  • cartonau bwyd a diod, fel Tetra Pak,
  • polystyren,
  • ffilm neu becynnu plastig,
  • papur wal,
  • papur lapio, neu 
  • hancesi, tywelion papur a rholiau cegin.













Mae’r eitemau y gallwch eu rhoi yn y cadi glas yn cynnwys:

  • poteli gwydr fel poteli cwrw, poteli gwin a photeli diodydd ysgafn, a
  • jariau gwydr, fel jariau saws a bwyd babi.





M​ae’r eitemau sydd ddim yn mynd yn y cadi glas yn cynnwys:

  • cerameg neu tsieina, 
  • gwydrau yfed,
  • gwydr wedi torri,
  • paneli gwydr,
  • bylbiau golau, neu
  • Pyrex. 









Sachau a chadi newydd ac ychwanegol







​Os oes angen sach ychwanegol arnoch, gallwch ddefnyddio cynhwysydd addas yn lle hynny, fel bag siopa y gellir ei ailddefnyddio. 

Peidiwch â defnyddio bag defnydd untro.

Os oes gennych fwy o ailgylchu yn aml nag y gallwch ffitio i mewn i'ch sach, gallwch ofyn am sachau ychwanegol.

Gallwch ofyn am sachau ychwanegol

Didoli eich eitemau ailgylchadwy yn y tŷ


Efallai y byddwch am gael biniau ar wahân yn eich cegin i wahanu eich ailgylchu. 

Neu gallwch gymysgu’r eitemau ailgylchadwy yn eich cegin ac yna didoli’r cyfan i'r sachau neu'r cadi priodol yn rheolaidd, neu cyn y diwrnod casglu.

Defnyddiwch ein canllaw A-Y o Ailgylchu i ddysgu sut i wahanu gwahanol eitemau.

Cysylltu â ni

Os hoffech roi adborth ar y gwasanaeth newydd, neu os oes gennych gwestiynau cysylltwch â C2C.

Gallwch hefyd gysylltu â ni i drafod unrhyw addasiadau rhesymol â’r tîm os ydych angen help i gyflwyno eich bagiau.


​029 2087 2088
© 2022 Cyngor Caerdydd