Rydym yn gwneud y newidiadau er mwyn:
Gwella ansawdd y deunydd sy’n cael ei gasglu
Rydym eisoes wedi rhoi’r cynllun hwn ar brawf mewn 10,000 eiddo ledled y ddinas, ac mae nifer yr eitemau anghywir mewn bagiau ailgylchu wedi gostwng o 30% i 7%.
Lleihau plastigau untro
Unwaith y bydd y ddinas gyfan ar gasgliadau ailgylchu ar wahân, byddwn yn arbed 24 miliwn o fagiau plastig untro y flwyddyn.
Helpu i atal newid hinsawdd
Trwy wella ansawdd ailgylchu, bydd mwy ohono'n aros yn y DU i gael ei ailgylchu yn hytrach na chael ei anfon dramor. Bydd hyn yn lleihau ein hallyriadau carbon.
Cynyddu ein cyfraddau ailgylchu
Ar hyn o bryd mae ein perfformiad ailgylchu oddeutu 62% sydd o dan darged Llywodraeth Cymru o 70%. Bydd y newidiadau yn helpu i gynyddu'r gyfradd.