Gallai eich busnes dderbyn llythyr o’r enw Hysbysiad Adran 47. Dyma ddogfen gyfreithiol dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Ceir ar yr hysbysiad gyfarwyddiadau ffurfiol ar sut i storio, cyflwyno neu waredu ailgylchu a gwastraff busnes. Gallwn ni hefyd gyfarwyddo nifer a math y biniau neu fagiau y mae eu hangen, ynghyd â nifer y casgliadau y mae eu hangen.
Ceir ar yr hysbysiad gyfarwyddiadau ffurfiol ar sut i storio, cyflwyno neu waredu ailgylchu a gwastraff.
Os dilynwch yr holl gyfarwyddiadau sydd ar yr hysbysiadau ni fydd camau gweithredu eraill.
Os methwch â dilyn y cyfarwyddiadau ar yr hysbysiad, byddwch yn derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig (HCB) o £100.
Ni allwch herio Hysbysiad Cosb Benodedig gyda’r Cyngor. Os teimlwch na ddylech chi fod wedi derbyn yr hysbysiad, cewch gyfle i anghytuno trwy’r Llys Ynadon.
Cyfrifoldeb y Landlord neu’r Asiantaeth Gosod Tai yw unrhyw wastraff a grëir yn rhan o wella, atgyweirio neu addasu eiddo rhent.
Mae hyn yn cynnwys gosodiadau wedi’u cyflenwi dan delerau’r brydles megis peiriannau golchi dillad, carpedi, ac ati sy’n wastraff yn y dyfodol gan eu bod wedi torri, neu nad oes eu hangen mwyach.
Ar ôl i denantiaeth ddod i ben, y landlord sy’n gyfrifol am waredu unrhyw wastraff sydd ar ôl. Sicrhewch eich bod yn glir wrth gyfathrebu â’ch tenantiaid y codir tâl arnynt os byddant yn gadael gwastraff yn yr eiddo y mae’n rhaid i chi ei waredu.
Mae nifer o ffyrdd y gallwch waredu gwastraff, y mae’n rhaid i chi dalu amdanynt i gyd:
Cewch fwy o wybodaeth am eich cyfrifoldeb fel landlord yng Nghaerdydd.
Cyn i’ch tenantiaid symud i mewn, sicrhewch fod ganddynt:
- fagiau ailgylchu,
- cadi gwastraff bwyd, a
- y biniau cywir yn eu heiddo.
Gallwch gael gwybod a ddylai eiddo fod yn defnyddio biniau neu fagiau trwy roi’r cod post ar y dudalen
pryd gaiff fy miniau eu casglu.