Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Trwyddedau mynediad i draffig

​Mae cyfyngiadau traffig mewn rhai cymdogaethau yng Nghaerdydd.  

Eu nod yw lleihau'r traffig neu atal cerbydau anaddas rhag defnyddio rhai ffyrdd. Mae'r trwyddedau hyn ar gyfer mynediad yn unig ac nid ydynt yn drwyddedau parcio. Dilynwch y cyfyngiadau parcio yn yr ardal.   

Efallai y bydd angen trwydded traffig arnoch i gael mynediad i'r ffyrdd cyfyngedig hyn. 

Y mathau o drwyddedau mynediad yw: 

  • preswylydd,  
  • gofalwr, neu 
  • busnes (hefyd yn cynnwys grwpiau crefyddol neu gymunedol).  


Mae pob trwydded mynediad i draffig am ddim ac yn ddigidol.   Ni fydd angen i chi arddangos unrhyw beth yn eich cerbyd.    ​


Mae tri math o drwyddedau mynediad i draffig ar gyfer preswylwyr. 


Trwyddedau blynyddol​​


Gallwch wneud cais ar-lein am drwydded mynediad i draffig ar gyfer preswylydd os ydych yn byw mewn eiddo sy'n rhan o gynllun mynediad i draffig. Rhaid i’ch cerbyd fod wedi’i gofrestru neu’n cael ei gadw yn eich cyfeiriad hefyd.

I wneud cais, bydd angen eich cyfeirnod Treth Gyngor arnoch, a chopi o un o'r canlynol:    

  • Tystysgrif Cofrestru Cerbyd y DU (Llyfr log V5c),     
  • Cytundeb Prydlesu, Cyllido neu Rentu, neu  
  • Tystysgrif a Pholisi Yswiriant (gan gynnwys Yswiriant Motability).  


Ar gyfer cerbydau cwmni, bydd angen i chi roi llythyr i ni, ag enw’r cwmni arno, wedi'i ddyddio o fewn 28 diwrnod i'ch cais, i gadarnhau eich bod: 
 
  • yn gyflogai neu'n gyfarwyddwr, 
  • wedi eich awdurdodi i yrru'r car, a’ch bod yn 
  • cadw’r cerbyd yn eich cyfeiriad dros nos.  


Rhaid i'r llythyr hefyd gadarnhau rhif cofrestru'ch cerbyd, ac enw a swydd y person sy'n llofnodi'r llythyr.​

Trwyddedau cydymaith  


Os ydych chi'n breswylydd, gallwch wneud cais am drwydded cydymaith sengl i'w defnyddio gan deulu neu ffrindiau nad ydynt yn ofalwyr, ond a allai ymweld yn rheolaidd neu helpu gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd.  

Gallwch wneud cais am drwydded cydymaith yn yr un modd â thrwydded flynyddol, ond ni fydd angen i chi ddarparu prawf o berchnogaeth cerbyd.​

Gallwch newid rhif cofrestru’r cerbyd ar eich trwyddedau cydymaith unrhyw bryd trwy eich cyfrif MiPermit. Bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn newid hyn cyn gyrru ar y ffordd gyfyngedig.    

Gallwch wneud cais am un drwydded cydymaith fesul eiddo. Bydd hon yn para hyd at 12 mis.  


Pasys diwrnod ar gyfer ymwelwyr 


Os ydych chi'n breswylydd, gallwch wneud cais am basys diwrnod ar gyfer eich ymwelwyr. Byddwch angen eich cyfeirnod Treth Gyngor arnoch i wneud cais.

Mae pasys ymwelwyr ar gael mewn pecynnau o 50. Mae 1 pàs yn rhoi mynediad diwrnod llawn i 1 cerbyd. Nid oes cyfyngiad ar nifer y bwndeli y gallwch eu cael mewn blwyddyn. Nid yw pasys ymwelwyr yn drosglwyddadwy rhwng cerbydau, ond gallwch weithredu cynifer ag y dymunwch mewn diwrnod.   

Pan fydd eich ymwelydd yn cyrraedd, gallwch roi pàs diwrnod ar waith drwy'r opsiwn "Gweithredu Trwydded Ymwelwyr" ar eich cyfrif MiPermit. Cyn belled â'i fod cyn hanner nos ar yr un diwrnod, gallwch weithredu'r pàs ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r ymwelwyr gyrraedd. Mae hwn yn ddilys ar gyfer mynediad am ddim hyd yn oed os ydynt eisoes wedi gyrru drwy'r ardal gyfyngedig.   

Er enghraifft, os byddwch yn gweithredu pàs diwrnod ar ddydd Llun am 11am, bydd y cerbyd wedi'i gynnwys am 24 awr o’r dydd Llun, hanner nos i hanner nos.  

Os ydych yn rhoi gofal rheolaidd i breswylydd sy'n byw mewn eiddo sy'n rhan o'r cynllun mynediad i draffig, efallai y gallwch wneud cais am drwydded eithrio gofalwr.  

Gallai hyn olygu gofal proffesiynol, neu ofal am aelod o'r teulu, partner neu ffrind na all ymdopi heb gymorth o ddydd i ddydd.   

Efallai y bydd angen cymorth ar unigolyn oherwydd: 

  • salwch,  
  • eiddilwch,  
  • anabledd,  
  • problemau iechyd meddwl, neu  
  • caethiwed.  



I wneud cais am drwydded eithrio gofalwr, bydd angen copi o un o'r canlynol arnoch i brofi eich bod yn berchen ar y cerbyd neu'n ei ddefnyddio:  

  • Tystysgrif Cofrestru Cerbyd y DU (Llyfr log V5c),     
  • Cytundeb Prydlesu, Cyllido neu Rentu, neu  
  • Tystysgrif a Pholisi Yswiriant (gan gynnwys Yswiriant Motability).  


Bydd angen i chi hefyd ddarparu un o'r canlynol, i brofi bod angen mynediad arnoch:  

  • prawf o gyflogaeth fel gofalwr iechyd proffesiynol,
  • copi o ddogfen sy’n dangos eich bod yn derbyn Lwfans Gofalwr neu fudd-daliadau Credyd Gofalwr, neu  
  • lythyr wedi'i lofnodi gan y preswylydd yn cadarnhau eu gofynion gofal.  Byddwn yn adolygu pob cais yn unigol, yn seiliedig ar ei amgylchiadau ei hun.   


Rhaid i chi hefyd ddarparu cyfeiriad y person rydych yn gofalu amdano.    

Mae rhai eiddo busnes neu grŵp crefyddol yn rhan o gynllun mynediad i draffig. Os ydych chi'n berchen ar, yn rhedeg, neu'n cael eich cyflogi gan unrhyw un o'r rhain, efallai y bydd gennych hawl i gael trwydded mynediad i draffig busnes. 

I wneud cais am drwydded mynediad i draffig busnes, bydd angen copi o un o'r canlynol arnoch i brofi eich bod yn berchen ar y cerbyd neu'n ei ddefnyddio:  

  • Tystysgrif Cofrestru Cerbyd y DU (Llyfr log V5c),     
  • Cytundeb Prydlesu, Cyllido neu Rentu, neu  
  • Tystysgrif a Pholisi Yswiriant (gan gynnwys Yswiriant Motability).  


Bydd angen i chi hefyd ddarparu un o'r canlynol, i brofi bod angen mynediad arnoch:  

  • copi o'ch ardrethi busnes,  
  • cerdyn adnabod staff, neu 
  • lythyr eglurhaol, ag enw’r cwmni arno, wedi'i lofnodi gan reolwr neu gyfwerth. 



Gall busnes neu grŵp crefyddol wneud cais am hyd at 10 trwydded mynediad i draffig busnes fesul eiddo, ar sail y cyntaf i'r felin. 

Gallwch newid rhif cofrestru’r cerbyd ar eich trwyddedau busnes mynediad i draffig unrhyw bryd trwy eich cyfrif MiPermit. Bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn newid hyn cyn gyrru ar y ffordd gyfyngedig.    

Gwneud cais am drwydded mynediad i draffig​

Gallwch wneud cais am drwydded mynediad i draffig trwy MiPermit.​​

Gwneud cais am drwydded mynediad i draffig​
© 2022 Cyngor Caerdydd