Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Porth trwyddedau treial Glyn Crisial

​​​​​​​​​​​​​​Gallwch nawr wneud cais am drwyddedau​ i gydymaith a gofalwr. ​


Rydym yn treialu cynllun giât drwydded ar Glyn Crisial i leihau nifer y cerbydau sy'n defnyddio'r gyffordd hon. 

Dyma'r cynllun cyntaf fel hyn yng Nghaerdydd.

Trosolwg

Mae giât drwydded yn ddarn byr o ffordd lle mai dim ond deiliaid trwyddedau a cherbydau awdurdodedig sy'n gallu gyrru yn ystod yr amseroedd gweithredol.  

Os nad oes gennych drwydded, gallwch dal gael mynediad i’r ardal, ond mae angen i chi adael yr un ffordd a daethoch i mewn heb yrru drwy’r gât trwyddedau.​​​



Nid oes angen trwydded ar fysiau lleol, tacsis na cherbydau clwb ceir i ddefnyddio’r giât drwydded.​





Nid yw'r cynllun yn cyfyngu'r mynediad i unrhyw eiddo.  

Gweld map o gynllun Glyn Crisial (223kb PDF).​

Nodau

Ein nodau gyda'r cynllun hwn yw:

  • atal cerbydau rhag defnyddio Heol Abergwaun a Glyn Crisial fel llwybr byr rhwng Rhodfa Tŷ Glas a Heol Heathwood, ac
  • annog teithio llesol.



Roedd y ffyrdd hyn ar gyfer preswylwyr a mynediad i ymwelwyr yn unig o'r blaen, ond mae'n anodd gorfodi'r cyfyngiad, ac nid oedd gyrwyr yn ei ddilyn.

Nid yw'r heddlu a pholisi Cyngor Caerdydd yn cefnogi gorchmynion mynediad yn unig.    

Beth yw hyd y cynllun

Hyd y giât drwydded yw 18 mis (o 19 Mehefin 2023).

Mae'n gyfnod prawf fel y gallwn fonitro a phrofi'r cynllun.

Os yw'n gweithio'n dda, byddwn yn ystyried ei wneud yn barhaol.


Amseroedd Gweithredu  

Mae’r giât drwydded ar waith o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 7am i 7pm.
​​​​​
Er mwyn:

  • atal pobl rhag defnyddio’r ardal fel llwybr byr, a  
  • galluogi preswylwyr ac ymwelwyr i gael mynediad am ddim gyda'r nos ac ar ddydd Sul. 




Cymhwystra trwyddedau

Byddwn yn cyhoeddi trwyddedau mynediad i draffig​ ar gyfer:

  • preswylwyr a'u hymwelwyr
  • busnesau,
  • addoldai, a  
  • safleoedd cymunedol, fel clybiau cymdeithasol neu neuaddau.









Gallwch wneud cais am drwydded os yw'ch eiddo ar:

  • Glyn Crisial, 
  • Ffordd Abergwaun  
  • Rhodfa Tŷ Glas ffordd wasanaeth (rhwng rhifau 1 a 63),   
  • unrhyw ffordd y gellir ei chyrchu o'r ffyrdd a restrir yn unig, neu 
  • Heol Heathwood (rhifau 211, 213, 215 a 217).








Mae trwyddedau am ddim.


Os ydych yn breswylydd, gallwch wneud cais am nifer diderfyn o drwyddedau os ydych yn berchen ar neu’n cadw'r cerbyd yn eich cyfeiriad.

Gall busnesau, addoldai ac adeiladau cymunedol wneud cais am nifer cyfyngedig o drwyddedau ar sail y cyntaf i'r felin.

Gwneud cais am drwydded 


Mae pob trwydded traffig am ddim ac yn ddigidol. Ni fydd angen i chi arddangos unrhyw beth yn eich cerbyd.


Mae trwyddedau digidol yn gwneud yr holl wybodaeth yn gyfredol ac maen nhw wedi’u cysylltu â'r camerâu CCTV mewn amser real.

Mae hyn yn atal gyrwyr rhag derbyn dirwy neu HTC mewn camgymeriad. 


Mynediad i bobl heb drwydded

Nid oes angen trwydded ar fysus, tacsis a cherbydau clybiau ceir lleol.


Yn ystod yr oriau gweithredol, gall gyrwyr heb drwydded gael mynediad i'r ardal ond ni allant yrru drwy’r giât drwydded.

Mae hwn yn cynnwys:​​​​

  • gyrwyr dosbarthu,  
  • gofalwyr,  
  • grwpiau cymdeithasol, ac 
  • eglwyswyr.







Os nad oes gennych drwydded, gallwch dal gael mynediad i’r ardal, ond bydd angen i chi adael yr un ffordd y daethoch i mewn heb yrru drwy’r giât drwydded. ​

Y tu allan i'r oriau gweithredu, nid oes angen trwydded arnoch i yrru drwy’r giât drwydded.

Gweld map o gynllun Glyn Crisial (223kb PDF)​​​​​​.

Atal dim troi i’r dde


Fe wnaethon ni wahardd y troad i'r dde o Glyn Crisial i Heol Heathwood ym 1996 er mwyn atal cerbydau rhag ciwio.

Mae disgwyl y bydd cynllun giât drwydded yn lleihau nifer y cerbydau sy'n defnyddio'r gyffordd hon, felly rydym yn treialu'r broses o ddiddymu’r gwaharddiad ar droi i’r dde. Bydd hyn yn gwneud mynediad yn haws i ddeiliaid di-drwydded.​


Gorfodi Teledu Cylch Cyfyng 

Mae camerâu TCC yn monitro ac yn gorfodi giatiau trwyddedau o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Bydd unrhyw draffig heb awdurdod sy'n defnyddio’r giât drwydded yn derbyn dirwy neu Hysbysiad Tâl Cosb (HTC)​.

​​​​Dim ond am 14 diwrnod cyntaf y cynllun y byddwn yn rhoi hysbysiadau rhybudd i yrwyr.


Y ddirwy yw £70, a ostyngir i £35 os byddwch yn talu o fewn 21 diwrnod. Mae'r ddirwy yn cynyddu ar ôl hynny.

Mae gennych hawl i apelio os ydych yn anghytuno â'r ddirwy. 

Y Broses Ymgynghori

Cyn gweithredu'r cynllun, cynhaliwyd arolygon traffig ac ymgynghori â'r cyhoedd. Cymerodd 323 o bobl ran gyda 65% ohonynt yn cefnogi'r cynllun.

Roedden ni wedi cynnig y byddai’r giât drwydded yn weithredol 24 awr y dydd, bob dydd. O'r adborth a gawsom, penderfynwyd caniatáu mynediad gyda'r nos ac ar y Sul. ​


Y camau nesaf

Ar ôl y cyfnod prawf, byddwn yn ystyried a ddylid gwneud y cynllun yn barhaol ai peidio.
Byddwn ni'n monitro effaith y cynllun trwy gydol y cyfnod prawf.  

Ar ôl y cyfnod prawf, byddwn yn ystyried a ddylid gwneud y cynllun yn barhaol ai peidio. 

Byddwn yn cynnal mwy o arolygon i weld pa newid fu i’r traffig a byddwn yn ymgynghori â phreswylwyr a busnesau'r ardal eto cyn penderfynu’n derfynol.​
​​
© 2022 Cyngor Caerdydd