Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Draen Ffyrdd

​Un o’n cyfrifoldebau fel Awdurdod Priffyrdd yw sicrhau bod ffyrdd Caerdydd wedi eu hadeiladu a’u cynnal i safon addas. Mae hyn yn cynnwys cynnal system ddraenio’r priffyrdd. 

Mae systemau draenio priffyrdd wedi eu gosod er mwyn casglu dŵr oddi ar wyneb y ffordd er mwyn:




  • ​Lleihau llifogydd, 
  • Arbed adeiladwaith y briffordd,
  • Cynnal arwyneb diogel er mwyn gyrru cerbydau.


Mae ffyrdd wedi eu dylunio fel bod dŵr yn llif​o o’r arwyneb i’r ymylon, i’r systemau draenio. Mae’r mathau o systemau draenio a ddefnyddir yn dibynnu ar lle mae’r ffordd a beth sydd wedi ei osod yno.​ 

Fodd bynnag, wrth i lefelau'r afonydd godi, efallai na fydd modd i ddŵr wyneb gormodol ar ein strydoedd lifo trwy bibellau draeniau llifogydd i'r afonydd os bydd lefelau'r afon yn codi uwchben y man draenio. Mae hyn yn peri i'r dŵr gronni ar ein strydoedd gan nad yw'n gallu draenio i ffwrdd.​


Mae gennym stoc gyfyngedig o fagiau tywod sy'n cael eu defnyddio lle mae dŵr wyneb yn achosi problem ddifrifol.Argymhellir yn gryf i breswylwyr sy'n byw mewn ardal lle mae perygl o lifogydd gael hyd i'w bagiau tywod eu hunain ymlaen llaw. Byddwn, fel bob amser, yn gwneud ein gorau glas i helpu, ond bydd gwneud eich paratoadau eich hunain​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​​ o fudd mawr yn yr ymdrech i ddiogelu eich cartref a'ch eiddo.

Os oes gennych bryderon am eich eiddo oherwydd cynnydd yn lefel afon, ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188, sef gwasanaeth 24 awr a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd. Mae gwybodaeth ar gael am Rybuddion Llifogydd Afonydd a sut i ddiogelu eich eiddo, yn ogystal â gwasanaeth am ddim i dderbyn rhybuddion llifogydd dros y ffôn, drwy neges destun neu e-bost​.




​Tyllau draen  / draeniau ochr ffordd


Tyllau dan orchudd grid metel yw'r tyllau draen, fel arfer maen nhw wrth ymyl y ffordd, yn agos i ochr y palmant.

Bwriad y tyllau draen yw draenio dŵr glaw o’r briffordd i system garffosiaeth (system beipiau). 

Pan mae’r dŵr yn mynd i’r system garthffosiaeth, mae’n mynd i bwynt gollwng fel carthffos arwyneb dŵr neu ddyfrffos

Cynnal a chadw’r tyllau draen


Rydym yn cynnal a chadw’r tyllau draen wrth gynnal system lanhau draeniau ar amserlen ac mewn argyfwng.
Yn nhymor cwympo’r dail, rydym yn ceisio sicrhau bod y ffyrdd yn glir ac nad oes dail yn rhwystro'r tyllau draen. 

Mae'r tyllau draen yn stopio gweithio am amryw o resymau, ac rydym bob tro'n ddiolchgar am unrhyw gymorth er mwyn darganfod problem.  Tymor yr hydref yw tymor prysuraf y Tîm Priffyrdd oherwydd ei bod hi weithiau'n anodd gweithio cyn gyflymed â chwympo’r dail.  Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn ysgubo’r ffyrdd, gan gynnwys system o don lanhau mewn lleoedd dan gysgod llawer o goed, ond mae'n anodd i ni gyrraedd y safleoedd er mwyn clirio’r tyllau draen. 

Sut y gallwch helpu


Byddwch yn ymwybodol o dyllau draen ger eich tŷ. Cofiwch taw prin y mae draeniau'r priffyrdd yn cael eu rhwystro, fel arfer gorchudd o ddail sy'n atal y dŵr rhag cyrraedd y twll draen. 

Edrychwch am y canlynol:

  • Dŵr nad yw’n draenio oddi ar y ffordd, neu bwll dŵr dwfn ar wyneb y ffordd am beth amser ar ôl i’r glaw beidio (cofiwch y dylai fod rhywfaint o ddŵr yn y tyllau draen).
  • Pridd neu unrhyw beth arall yn gorchuddio’r grid.
  • Gridiau metel wedi malu neu suddo’n ddrwg.


Rhoi gwybod am broblem​


Gallwch helpu drwy roi gwybod am un o’r problemau uchod ac wrth ysgubo dail oddi ar y grid metel yn rheolaidd. Gall hyn atal dŵr rhag casglu ar y ffordd a gadael iddo ddraenio’n gyflym, a gwella llif traffig.
​​​​​​
​​
© 2022 Cyngor Caerdydd