Fel awdurdod lleol gallwn gyflwyno Gorchmynion Rheoli Cŵn (GRhC) yng Nghaerdydd. Cyflwynir GRhC i orfodi pobl i fod yn berchenogion cyfrifol.
Golyga hyn, mewn ardaloedd cyhoeddus lle ceir GRhC, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:
- cadw’r ci ar dennyn
- rhoi’r ci ar dennyn os bydd swyddog yr heddlu, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu neu swyddog iechyd yr amgylchedd yn dweud wrthych i wneud hynny
- atal y ci rhag mynd i leoedd penodol – fel ffermdir neu rannau o barc
- cyfyngu ar nifer y cŵn sydd gennych chi (mae hyn yn berthnasol i gerddwyr cŵn proffesiynol hefyd)
- glanhau ar ôl y ci
Ceir rhagor o wybodaeth am reoli eich ciDolen yn agor mewn ffenestr newydd
ar wefan y llywodraeth ganolog.
Gweld Rheolau Cŵn i helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cysylltiad â chŵn