Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Perfformiad

​Rydym am i Gyngor Caerdydd fod yn gyngor rhagorol. I’n helpu i gyflawni hyn rydyn ni’n cyson fonitro pa mor dda rydyn ni’n wneud.

Mae ein Cynllun Corfforaethol​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn nodi’r hyn rydyn ni am ei gyflawni a sut y byddwn yn gwneud hynny.  Mae’n amlinellu ein blaenoriaethau a’n hamcanion llesiant, ac mae casgliad o fesurau a thargedau i’w monitro’n flynyddol yn sail iddynt. 

Amcanion strategol a fydd yn sicrhau bod y Cyngor yn cyfrannu at gyflawni’r nodau lles yw’r amcanion llesiant. Maen nhw wedi eu creu i sicrhau y cyfrennir cymaint â phosibl i’r Nodau Llesiant ac maen nhw’n orfodol dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Mae hyn yn ein helpu i ddathlu ein llwyddiannau ac i ffocysu ar y meysydd lle mae angen i ni wella. 

Rydym yn cyhoeddi adroddiadau chwarterol gydol y flwyddyn ariannol i rannu’r wybodaeth hon, ac fe’u hadolygir gan Y Pwyllgor Craffu ar Berfformiad ac Adolygu Polisi​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.  Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi Adroddiad Llesiant​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd blynyddol sy’n dadansoddi ein perfformiad yn erbyn yr hyn y dywedon ni yn y Cynllun Corfforaethol y bydden ni’n ei gyflawni. 

Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau’r mesurau ar y dalennau hyn, wrth iddynt ddod ar gael. Fel arfer, dyma pryd y bydd hyn:
  • Chwarter 1 (Ebrill-Mehefin) ym mis Gorffennaf 
  • Chwarter 2 (Gorffennaf-Medi) ym mis Hydref
  • Chwarter 3 (Hydref-Rhagfyr) ym mis Ionawr
  • Chwarter 4 (Ionawr-Mawrth) ym mis Ebrill

Data perfformiad

Dewiswch flaenoriaeth:

Loading performance results...
​​​​
​​
 ​
© 2022 Cyngor Caerdydd