Mae croeso i aelodau'r cyhoedd bostio sylwadau, lluniau a fideos ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ond byddwch yn ymwybodol bod eich cyfraniadau'n gyhoeddus ac ar gael i unrhyw un sy'n ymweld â'n cyfrifon.
Mae sylwadau ac atebion ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn adlewyrchu barn y sawl sy'n eu cyflwyno, ac nid ydynt yn adlewyrchu polisi Cyngor Caerdydd.
Sylwer bod ymholiadau a wneir drwy ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu trin gan ein tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid.
Mae unrhyw beth a gaiff ei roi ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, neu atebion i'n negeseuon hefyd yn ddarostyngedig i bolisïau'r darparwr e.e. Facebook, Twitter, Instagram, YouTube.
Er mwyn diogelu eich preifatrwydd, a phreifatrwydd pobl eraill, peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol na chyfrinachol yn eich sylwadau neu'ch ymatebion – oni bai ein bod yn gofyn am y rhain yn uniongyrchol drwy negeseuon preifat neu uniongyrchol.
Nid yw sylwadau ac atebion ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu cymedroli cyn eu postio, ond rydym yn cadw'r hawl i gael gwared ar unrhyw ddeunydd sydd:
- yn achosi risg diogelwch neu breifatrwydd,
- yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol amdanoch chi eich hun, neu rywun arall,
- yn cyfeirio at weithwyr y cyngor yn ôl eu henw,
- yn cael eu hystyried yn sbam neu'n hysbysebion masnachol,
- yn anghyfreithlon, yn aflonyddu, yn sarhaus neu'n fygythiol,
- yn anllad, yn awgrymog yn rhywiol neu'n cynnwys rhegi,
- yn hiliol, homoffobig, oedraniaethol, rhywiaethol neu'n cael eu hystyried yn sarhaus i unrhyw grŵp o unigolion,
- yn torri cyfraith eiddo deallusol neu gyfraith hawlfraint,
- yn hyrwyddo unrhyw blaid wleidyddol unigol, neu
- mewn unrhyw ffordd arall, yn cael ei ystyried yn ddeunydd sarhaus neu amhriodol ar gyfer y dudalen hon.
Bydd torri'r rheolau hyn dro ar ôl tro yn golygu y bydd eich cyfrif yn cael ei atal o'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Mewn achosion difrifol, efallai y byddwn yn rhoi gwybod i'r heddlu am sylwadau.
Ni fydd sylwadau a wnewch ar gyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar y gwasanaeth a gewch gan Gyngor Caerdydd nac yn dylanwadu arno.
Nid yw Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo nac yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw ddeunydd y gellir ei gyrraedd drwy ddolenni a bostiwyd ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Pan fyddwch yn dilyn dolen, cofiwch eich bod yn gadael cyfrifon Cyngor Caerdydd. Gall Cyngor Caerdydd rannu gwybodaeth am grwpiau cymunedol ar y cyfryngau cymdeithasol os yw’n briodol i’n cynulleidfa ac yn gydnaws â phwrpas y cyfrif.
Nid yw Cyngor Caerdydd yn gwarantu bod unrhyw wybodaeth a bostiwyd gan unigolion ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn gywir ac yn diarddel unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod sy'n deillio o ddibynnu ar y wybodaeth hon.
Dim ond gweithwyr Cyngor Caerdydd sy'n gweithredu yn rhinwedd eu swydd swyddogol sydd wedi'u hawdurdodi i weinyddu ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Mae Cyngor Caerdydd yn cadw'r hawl i ddileu'r swyddogaeth sylwadau ar unrhyw adeg os yw'n cael ei gam-drin.
Ar gyfer ymholiadau ar y polisi hwn neu i adrodd am sylw, defnyddiwch
y ffurflen gyswllt hon.