Gellir gwneud cais am TCC am amryw o resymau. Gall y canlynol wneud cais amdano:
- aelod o’r cyhoedd,
- yr heddlu, neu
- gwmni sy'n cynrychioli aelod o'r cyhoedd. Er enghraifft, cwmnïau yswiriant neu gyfreithwyr.
Pa mor hir rydym yn cadw recordiadau TCC?
Nid ydym yn cadw recordiadau am fwy na 31 diwrnod. Caiff y recordiadau eu dileu'n awtomatig ar ôl i’r 31 diwrnod fynd heibio, oni bai ein bod wedi derbyn cais ffurfiol am y recordiadau, neu eu bod yn berthnasol i ymchwiliad parhaus.
Nid ydym yn berchen ar bob camera TCC yng Nghaerdydd. Efallai na fyddwn bob amser yn gallu cael mynediad i'r recordiadau.
Pa wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi?
Ni fyddwn yn chwilio am y recordiadau oni bai bod y dogfennau perthnasol wedi'u cyflwyno.
Bydd angen i chi hefyd roi cymaint o wybodaeth â phosibl, fel:
- y dyddiad a'r amser penodol,
- y lleoliad, a
- disgrifiad ohonoch chi’ch hun a'r digwyddiad.
Mae gennych hawl i wneud cais am recordiadau TCC ohonoch chi'ch hun. Gallwch wneud hyn ar lafar neu’n ysgrifenedig. Efallai y bydd amgylchiadau lle na allwn roi'r recordiadau i chi. Er enghraifft, os oes modd adnabod unigolion eraill yn y recordiadau.
Sut i wneud cais
Ffôn: 029 2087 2088
Mae gennych hawl i wneud cais am recordiadau TCC ar ran rhywun arall. Rhaid i chi gael caniatâd a phrawf adnabod gan y person (gwrthrych y data).
Gallwch wneud cais ar lafar neu’n ysgrifenedig. Efallai y bydd amgylchiadau lle na allwn roi'r recordiadau i chi. Er enghraifft, os oes modd adnabod unigolion eraill yn y recordiadau.
Sut i wneud cais
Ffôn: 029 2087 2088
Gall cwmnïau yswiriant a chyfreithwyr wneud cais am recordiadau ar ran y cleient y maent yn ei gynrychioli. Rhaid i chi gael caniatâd a phrawf adnabod gan y cleient (gwrthrych y data).
Sut i wneud cais
Ffôn: 029 2087 2088
Gall yr heddlu wneud cais am recordiadau TCC dan Atodlen 2, Rhan 1 Paragraff 2 er mwyn:
- atal a chanfod trosedd,
- dal neu erlyn troseddwyr,
- asesu neu gasglu unrhyw dreth neu doll, neu
- gyflawni gwaith gorfodi o natur debyg.
Sut i wneud cais