Mae gofyniad cyfreithiol ar Gyngor Caerdydd i ddiogelu’r cyllid cyhoeddus a weinyddir ganddo. Gallwn rannu gwybodaeth a roddir i ni â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu cyllid cyhoeddus er mwyn canfod ac atal twyll. Rydym hefyd yn cymryd rhan yn y
Fenter Twyll Genedlaethol Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Rydym yn dibynnu ar y cyhoedd i dynnu ein sylw at yr amheuon hyn, felly os ydych yn amau twyll, rhowch wybod i ni.
Wrth roi gwybod am amheuaeth o dwyll, byddai'r wybodaeth ganlynol o gymorth i'n cynorthwyo i gynnal ymchwiliad trylwyr. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl.
- Enw a chyfeiriad yr unigolyn
- Disgrifiad, gan nodi'r canlynol:
- Oedran: e.e. 25-30
- Corff: Bach, canolig, mawr, tew, tenau
- Lliw: Lliw - gwedd - lliw llygaid
- Disgrifiad: Dillad, smart, blêr, tatŵs, blew wyneb
- Gweddlun: Uchder, e.e. 6' i 6' 2"
- Wyneb: Siâp, lliw, aeliau, trwyn, dannedd
- Osgo: Sut maen nhw'n cerdded, yn hercio, yn gefnsyth
- Gwallt: Lliw, hyd, glendid
- Dull o deithio, e.e. car neu fws neu wedi’i gasglu gan gerbyd gwaith (os yw'n fws, rhif a lle y'i daliwyd, os yw'n gerbyd gwaith, a oes logo ac ati?).
- Manylion cerbydau, i gynnwys: Brand, model, lliw, rhif cofrestru a lleoliad y cerbyd (e.e. ar y dreif, y tu ôl i'r eiddo).
- Amser cyrraedd a / neu adael eiddo.
- Natur yr honiad e.e. gweithio a hawlio neu gyd-fyw ac ati (os yw'n gweithio, manylion y cyflogwr, os yw'n cyd-fyw, manylion partner).
- Dywedwch wrthym sut y daethoch i’r wybodaeth a pha fanylion pellach sydd gennych.
- Rhowch wybod i ni a ydych wedi rhoi gwybod am y wybodaeth hon i unrhyw sefydliad arall e.e. yr Adran Gwaith a Phensiynau? Os na, nid oes rhaid i chi, gan y byddwn yn cysylltu â hwy.
- Byddai'n ddefnyddiol pe gallem gael eich manylion cyswllt i'n galluogi i'ch ffonio'n ôl, ond nid yw hyn yn hanfodol.
Gallwch ei adrodd ar-lein.
Rhoi gwybod am rywbeth
drwy ffonio ni ar:
029 20872329 (twyll nad yw’n ymwneud â budd-daliadau)
0800 328 6340 (budd-dal twyll)
0800 3286341 (llinell ffôn testun twyll budd-daliadau)
neu ysgrifennu at:
Yr Adran Archwilio Mewnol
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 3UW
Byddwn yn ymchwilio i bob achos a gaiff ei gyfeirio atom os oes digon o wybodaeth gennym.
Fel awdurdod cyhoeddus, mae’n ofynnol i ni, yn ôl y gyfraith, warchod yr arian cyhoeddus rydym yn ei weinyddu. Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu gwybodaeth a roddir i ni â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll.
Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am gynnal ymarferion paru data dan ei bwerau dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
Mae paru data yn cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiaduron a gedwir gan un corff â chofnodion cyfrifiadurol eraill a gedwir gan yr un corff neu gorff arall i weld faint y maent yn paru. Gwybodaeth bersonol yw hon fel arfer.
Mae paru data cyfrifiadurol yn dod o hyd i hawliadau a thaliadau twyllodrus. Pan lwyddir i baru data, gall ddynodi bod anghysondeb, a rhaid ymchwilio ymhellach. Ni ellir rhagdybio a oes twyll, gwall neu eglurhad arall nes i archwiliad gael ei gynnal.
Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol i ni fod yn rhan o ymarfer paru data i gynorthwyo gyda’r gwaith o atal a chanfod twyll. Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud hyn orfodol i’r awdurdod hwn gyflwyno’r wybodaeth a geidw at y diben hwn. Mae’n ofynnol i ni roi data penodol i’r Archwilydd Cyffredinol i’w baru. Mae manylion ar gael ar wefan
Swyddfa Archwilio CymruDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Caiff y defnydd o ddata, wrth i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal ymarfer paru data, ei wneud ag awdurdod statudol (Rhan 3A Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004). Nid oes angen caniatâd yr unigolion dan sylw dan Ddeddf Diogelu Data 1998.
Mae gwaith paru data a gynhelir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn ddarostyngedig i God Ymarfer. Mae hyn yn helpu yr holl gyrff sy'n rhan o baru data i gydymffurfio â'r gyfraith ac arfer da, gan gynnwys cynnal diogelwch data gweler wefan Hysbysiad preifatrwydd y Fenter Twyll GenedlaetholDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Am fwy o wybodaeth am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a’r rhesymau dros baru gwybodaeth benodol, gweler wefan
Swyddfa Archwilio Cymru (116kb PDF)Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd neu cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Ffôn 029 2087 3317