Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rheoli Cyllid y cyngor

​​

​​​​​​​​​​​​​​​​​​Datganiad o Gyfrifon​


​​​​​​


​​Mae’r Cyngor yn cyhoeddi ei Ddatganiad Cyfrifon (yn cynnwys Awdurdod Harbwr Caerdydd).


Mae’r cyfrifon yn rhoi gwybodaeth am ein gweithgareddau ariannol yn ystod y flwyddyn, ac asedau a rhwymedigaethau ar ddiwedd y flwyddyn. Caiff y cyfrifon eu harchwilio’n annibynnol gan Archwilio Cymru​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd


Mae datganiad cyfrifon Cyngor Caerdydd, ac Awdurdod Harbwr Caerdydd ynghyd ag Awdurdod Iechyd Porthladd Caerdydd a’r tri chydbwyllgor lle mae Cyngor Caerdydd yn awdurdod arweiniol Archifau Morgannwg, Prosiect Gwyrdd a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gael isod yn Saesneg. Yn dilyn cwblhau’r broses archwilio, bydd dogfennau a archwiliwyd ar gael yn y Gymraeg.

Cyngor Caerdydd yn cynnwys Awdurdod Harbwr Caerdydd



 

Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg

     

    Datganiad Llywodraethu Blynyddol


    Cyngor Caerdydd yw awdurdod arweiniol Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Swyddfa Cofnodion Morgannwg, Prosiect Gwyrdd a Awdurdod Iechyd Porthladd Caerdydd. Daeth Consortiwm Prynu Cymru i ben ar 31 Mawrth 2016, mae cyfrifon ar gael hyd at flwyddyn ariannol 2015/16.  


     

    Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd



    ​​

     

    Cydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru​





    Archifau Morgannwg

     

    Prosiect Gwyrdd


     

    Awdurdod Iechyd Porthladd Caerdydd

    Nid yw'r ffurflen ddrafft wedi'i chymeradwyo. Cyn 2019/20 roedd y ffurflen yn cael ei chymeradwyo ochr yn ochr â chyfrifon y Cyngor. Bydd y ffurflen archwiliedig derfynol yn cael ei chymeradwyo yn y Cyngor gyda Datganiad Cyfrifon y Cyngor. ​​

    Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifeg/Swyddog Cleient yw cynnal gwefan Cyngor Dinas Caerdydd; nid yw’r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac o ganlyniad nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a allai fod wedi digwydd i’r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno yn y lle cyntaf ar y wefan. 

    Rheoli Risgiau Ariannol 

    Mae gan y Cyngor ddull gweithredu rhagweithiol o ran rheoli risg sy’n ein helpu ni i fanteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau. 

    Mae cyfrifoldeb statudol arnom i archwilio, gwerthuso a monitro sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau, yn cynnwys ein cyllid, a gwneir y gwaith hwn gyda chymorth Archwilwyr Mewnol. 

    Mae’r Archwilwyr Mewnol yn rhoi cyngor ac arweiniad ar ddatblygu mesurau cadarn i fonitro a rheoli risg, helpu i nodi gwelliannau, a sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheolau a’r rheoliadau. Maent hefyd yn helpu i ymdrin ag atal, canfod ac ymchwilio i achosion o dwyll a amheuir neu gamweinyddu ariannol. ​

    Gwasanaeth Archwilio Mewnol a Gwrth Dwyll

    Mae'r tîm Archwilio Mewnol yn rhoi sicrwydd, cyngor a mewnwelediad gwrthrychol sy'n seiliedig ar risg. Rhagor o wybodaeth am Archwilio Mewnol​​.


    Mae’r Tîm Ymchwilio yn gwneud ystod o waith rhagweithiol ac ymatebol i atal a chanfod twyll. Mae’n cynorthwyo rheolwyr i ddatblygu a chynnal diwylliant o ddeall trwy’r sefydliad bod twyll, llwgrwobrwyo a llygredd yn annerbyniol ac y gweithredir yn gadarn i atal a chanfod colledion twyll, dwyn twyllwyr i gyfrif yn gyflym ac yn effeithiol, ac adennill unrhyw golledion. Rhagor o wybodaeth am dwyll.​

    Yswiriant 

    Mae holl asedau ffisegol y Cyngor – megis adeiladau, cerbydau a pheiriannau – wedi’u hyswirio, ac mae yswiriant atebolrwydd gennym hefyd ar gyfer colledion ariannol a allai ddigwydd yn sgîl difrod neu anafiadau a achosir gan y Cyngor, ei gyflogeion neu bobl eraill sy’n gweithredu ar ei ran, os dyfernir mai’r Cyngor sydd ar fai.
     

    Mae ein hadran Yswiriant yn cydlynu’r gwaith o ymdrin â phob hawliad yswiriant a wneir gan y Cyngor neu yn erbyn y Cyngor. Os oes gennych ymholiad cyffredinol am yswiriant y Cyngor neu os ydych am wneud hawliad cysylltwch â ni.

    Darllenwch fwy am wneud hawliad yn erbyn y Cyngor.​


    Caiff pob hawliad ei asesu’n unigol ac yn deg, a lle bod hawliadau yn gyfreithlon, ein nod yw eu talu cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, nid oes unrhyw hawl awtomatig i gael iawndal – bydd angen i chi brofi mai’r Cyngor oedd ar fai yn unol â’r gyfraith.


    Cysylltu â ni

    Os oes angen dogfennau arnoch wedi eu dyddio cyn 2018 yna cysylltwch â ni.

    ​​​​
    029 20872247

     

    Gallwch ysgrifennu at y cyfeiriad canlynol hefyd:    

    Blwch SP 9000
    Caerdydd
    CF10 3ND ​

    © 2022 Cyngor Caerdydd