Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwybodaeth diogelwch

Pwy sy’n darparu’r gwasanaeth?


Darperir y gwasanaeth gan Gyngor Caerdydd. Mae'n gyfleuster taliadau ar-lein diogel, cwbl integredig. Mae’r amgylchedd gweinydd diogel lle mae eich cerdyn debyd/credyd yn cael ei awdurdodi yn cael ei reoli gan CAPITA. Nid yw Cyngor Caerdydd yn cael nac yn storio manylion y cerdyn debyd/credyd sy'n cael eu cymryd a'u prosesu gan CAPITA yn ystod nac ar ôl talu.

Rhagofalon defnyddio cyffredinol


Os ydych yn rhannu eich cyfrifiadur, neu os ydych yn ei ddefnyddio mewn man cyhoeddus fel llyfrgell neu gaffi rhyngrwyd, gwnewch yn siŵr na all neb arall weld eich manylion wrth i chi eu mewnbynnu i’w hatal rhag cael eu camddefnyddio.

Dylech ddatgysylltu'n llwyr oddi wrth Gyngor Caerdydd i sicrhau bod eich manylion yn aros yn ddiogel ar ôl i chi orffen gwneud eich taliad. 


Bod yn Ddiogel Ar-lein 

​Byddwch yn ddiogel ar-lein, sicrhewch eich bod yn cadw eich porwr rhyngrwyd a'ch meddalwedd diogelwch yn gyfredol gyda'r diweddariadau diogelwch diweddaraf. Am ragor o wybodaeth a chyngor ar aros yn ddiogel ewch i www.getsafeonline.org​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Sut rydyn ni’n diogelu eich gwybodaeth?

Mae'r system dalu ddiogel yn defnyddio technoleg Haen Soced Ddiogel (SSL), safon y diwydiant ar gyfer taliadau rhyngrwyd.
Mae angen amgryptio 256 bit ar gyfer technoleg haen soced (SSL) diogel. Mae hyn yn golygu bod eich holl fanylion personol a cherdyn yn cael eu diogelu gan ddefnyddio amgryptio 256  bit pan gaiff eich manylion eu trosglwyddo dros y rhyngrwyd.

Dylech fod yn ymwybodol bod rhaid galluogi Javascript (sgriptio/sgriptio gweithredol) hefyd. 

Sut mae gwirio eich bod yn defnyddio safle diogel


Gellir dilysu ein tystysgrif gweinydd diogel drwy glicio ar y clo clap caeedig. Os nad yw'r clo clap ar gau, nid ydych yn defnyddio safle diogel. 

Sut i uwchraddio eich porwr a’ch system weithredu

 
Dylech uwchraddio eich porwr gwe os yw'n hen. Bydd uwchraddio i borwr mwy newydd yn golygu:

  • ​bydd eich cyfrifiadur yn fwy diogel a bydd yn llai tebygol yr ymosodir arno
  • bydd yn gyflymach pori'r rhyngrwyd arno
  • byddwch yn gweld mwy o nodweddion ar lawer o wefannau

Dewiswch borwr o'r rhestr isod a dilynwch y cyfarwyddiadau er mwyn ei osod.

Ar gyfer unrhyw gyfrifiadur (Windows, Mac, Linux) gallwch chi ddefnyddio:





Ar gyfer dyfeisiau symudol gallwch gael help gan:


Rhagor o gymorth

Mae Cyber Aware​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​ yn cynnig help a chyngor ar uwchraddio eich porwr a'ch system weithredu.
© 2022 Cyngor Caerdydd