Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad da i waith y gwasanaethau cyhoeddus mewn gwisg.
Mae’n addas i unrhyw un sydd â diddordeb yn y gwasanaethau cyhoeddus megis y lluoedd arfog, y gwasanaeth tân, yr heddlu, y gwasanaeth carcharau a Thollau Tramor a Chartref.
Dylech chi feddu ar lefel dda o ffitrwydd corfforol a sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu gyda pharodrwydd i ddatblygu’r rhain a dylech chi fwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau awyr agored.
Bydd gan y myfyrwyr fynediad llawn at gyfleusterau ar y safle.
Y pynciau dan sylw
- Gweithio’n ddiogel a gweithio mewn tîm
- Iechyd a ffitrwydd ar gyfer mynediad i wasanaethau
- Darllen mapiau
- Sgiliau personol ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus ac arweinyddiaeth
- Gwaith tîm ymarferol
- Digwyddiadau gwasanaeth cyhoeddus
- Cyflwyniad i sgiliau alldaith
Sut caiff y cwrs ei asesu??
Caiff ei asesu trwy dasgau a gwaith cwrs.
Ble caiff y cwrs ei gynnal?
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd,
Ffordd Watkiss,
Bae Caerdydd
CF11 0SY
At beth gall y cwrs arwain??
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch chi symud ymlaen at gwrs Lefel 2, prentisiaeth neu gyflogaeth.
Gofynion mynediad i’r cwrs
Ar gyfer CA4 Blwyddyn 10 ac 11 a phobl ifanc 14-16 oed.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ond dylai ymgeiswyr fod â diddordeb amlwg yn y pwnc.
029 2233 0270