Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Iechyd, Ffitrwydd a Maeth

​​Mae’r cwrs Iechyd, Ffitrwydd a Maeth ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb yn y diwydiant chwaraeon trwy roi cyfle iddynt gael cipolwg ar fanteision ffordd Iach o fyw. Cwrs ymarferol ac ystafell ddosbarth yw hwn ond gellir ei addasu ar gyfer pob gallu dysgu. 

Rydym yn edrych ar y patrymau bwyta a’r patrymau ymarferion corff unigol cyffredin i fywyd pob dydd gyda’r nod o gynnig dewisiadau eraill a allai newid eu bywydau. Nid yn unig y gall yr unigolyn ddefnyddio’r pethau a ddysgir ond bydd modd eu haddasu ar gyfer pob aelod o’r teulu.

Yn ogystal â bod yn gymwys mewn amgylchedd campfa, ar ddiwedd y cwrs bydd y myfyrwyr yn ennill cymwysterau ACU a fydd yn eu galluogi i fynd i’r gampfa heb oruchwyliaeth i barhau â’r pethau da sydd wedi’u dysgu.

Bydd myfyrwyr yn gallu manteisio ar y gampfa a’r ganolfan hamdden sy’n llawn o’r holl offer angenrheidiol yng Nghanolfan Trem y Môr.​

Y pynciau dan sylw

  • Deall pwysigrwydd ffordd iach o fyw 
  • Maeth 
  • Deall sut gall ffitrwydd ac ymarfer corff effeithio ar ffyrdd o fyw 
  • Deall y rhwystrau i ffordd iach o fyw 
  • Deall eich gofynion diet a ffitrwydd eich hun 
  • Hyfforddiant Cardiofasgwlaidd ac Aerobig 
  • Hyfforddiant Ymwrthedd  
  • Grwpiau Cyhyrau 
  • Ymddygiad yn y Gampfa
  • Iechyd a Diogelwch 
  • Ymarferion cynhesu ac ymlacio

Sut caiff y cwrs ei asesu??

Caiff ei asesu trwy dasgau a gwaith cwrs.

Ble caiff y cwrs ei gynnal?

Canolfan Trem y Môr, 
Jim Driscoll Way, 
Grangetown, 
Caerdydd 
CF11 7HB

At beth gall y cwrs arwain??

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch chi symud ymlaen at gwrs Lefel 2, prentisiaeth neu gyflogaeth. 

Gofynion mynediad i’r cwrs

Ar gyfer CA4 Blwyddyn 10 ac 11 a phobl ifanc 14-16 oed. 

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ond dylai ymgeiswyr fod â diddordeb amlwg yn y pwnc.


Cysylltu â ni


​029 2233 0270​
© 2022 Cyngor Caerdydd