Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i gynghorau arolygu faint o ofal plant sydd yn yr ardal a llunio adroddiad manwl i ddangos a oes digon o ofal plant i gefnogi rhieni i weithio neu hyfforddi. Os oes bylchau, rhaid i'r Cyngor ddangos sut y mae'n bwriadu cefnogi darparwyr gofal plant i sefydlu gwasanaethau gofal plant newydd i lenwi'r bylchau hyn. Gelwir hyn yn Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant neu'r ADGP.
Gallwch
darllen yr ADGP llawnDolen yn agor mewn ffenestr newydd ar ar y wefan hon, ond gan ei bod yn ddogfen hir (tua 300 tudalen) gyda llawer o ddata mewn tablau a graffiau, rydym wedi cynhyrchu'r fersiwn fyrrach hon sy'n dangos y canfyddiadau pwysicaf, y camau gweithredu arfaethedig.
Beth a wnaethom ni
Cafodd Cyngor Caerdydd wybodaeth am ddarpariaeth gofal plant gan Arolygiaeth Gofal Cymru, sy'n gyfrifol am gofrestru ac arolygu gofal plant.
Roedd y wybodaeth hon yn cynnwys manylion am leoliad, nifer a math y ddarpariaeth gofal plant; yr iaith a ddefnyddir yn y lleoliadau gofal plant; nifer y plant sy'n mynychu ac unrhyw leoedd gwag neu restrau aros.
Mae'r ADGP hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Gynghorau ddadansoddi'r wybodaeth yn ôl y mathau o ddarpariaeth gofal plant (e.e. gwarchodwyr plant, meithrinfeydd) a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu (e.e. sesiwn y bore, ar ôl ysgol, gofal dydd llawn) i ddeall a oes rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau neu fathau penodol o ddarparwyr gofal plant, a ble yng Nghaerdydd y mae unrhyw restrau aros.
Ardaloedd Cynllunio Cymdogaethau
Er mwyn rhannu Caerdydd yn ardaloedd daearyddol, defnyddiodd yr ADGP Ardaloedd Cynllunio Cymdogaethau (ACC) y Cyngor, ac mae pob un ohonynt yn cynnwys nifer o wardiau a ddangosir yn y tabl isod.
Edrychwyd ar nifer gyffredinol y lleoedd gwag neu blant ar restrau aros ym mhob ACC, yn ôl y math o ddarpariaeth gofal plant ac yn ôl gwasanaeth.
Felly pe bai 10 o blant yn aros am le mewn clybiau y tu allan i'r ysgol ar gyfer y gwasanaeth ar ôl ysgol, ond bod 15 lle gwag gyda gwarchodwyr plant ar gyfer gwasanaeth ar ôl ysgol yn yr ACC honno, byddai 5 lle gwag yn gyffredinol o hyd ar gyfer y gwasanaeth ar ôl ysgol.
Ardal Cynllunio Cymdogaethau
Gogledd Caerdydd
| - Rhiwbeina,
- Y Mynydd Bychan,
- Llys-faen,
- Llanisien,
- Cyncoed,
- Pen-y-lan,
- Pentwyn,
- Pontprennau, a
- Phentref Llaneirwg
|
Dwyrain Caerdydd
| - Llanrhymni,
- Tredelerch, a
- Trowbridge
|
De-ddwyrain Caerdydd
| - Gabalfa,
- Cathays (rhan ohoni),
- Plasnewydd,
- Adamsdown, a
- Y Sblot
|
Canol a De Caerdydd
| - Canol y Ddinas,
- Butetown,
- Grangetown, a
- Cathays (rhan ohoni)
|
De-orllewin Caerdydd
| - Trelái,
- Caerau,
- Treganna, a
- Glan-yr-afon
|
Gorllewin Caerdydd
| - Creigiau a Sain Ffagan,
- Pentyrch,
- Radur a Phentre-poeth,
- Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais,
- Y Tyllgoed,
- Llandaf, a
- Ystum Taf
|
Yr hyn a ganfuwyd gennym a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud
Mae canfyddiadau'r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yn dangos bod digon o ofal plant ar draws Caerdydd gan mwyaf i ddiwallu anghenion rhieni sy'n gweithio neu'n ymgymryd â hyfforddiant. Fodd bynnag, mae'r data'n dangos bod rhywfaint o alw heb ei fodloni mewn rhai ardaloedd, ar gyfer rhai mathau o ddarpariaeth gofal plant ac o ran gwasanaethau gofal plant penodol. Dangosir y camau gweithredu arfaethedig mewn print trwm o dan bob canfyddiad.
Galw posibl heb ei fodloni
Mae niferoedd is o ddarpariaeth gofal plant yn Nwyrain Caerdydd o gymharu â Chaerdydd yn gyffredinol, a rhestrau aros am wasanaethau penodol mewn pedair ACC arall (Gogledd Caerdydd, Canol a De Caerdydd, De-orllewin Caerdydd a Gorllewin Caerdydd).
Ein cam cyntaf fydd cynnal ymchwil fanwl bellach gyda'r darparwyr gofal plant yn yr ardaloedd hyn i wirio bod y wybodaeth yn gywir, ac i weld a all darparwyr gofal plant presennol gynyddu nifer y lleoedd y maent yn eu cynnig i fodloni'r angen hwn. Lle nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn ceisio annog darparwyr gofal plant i agor lleoliad newydd.
Darpariaeth Gymraeg
Mae'r data'n nodi'r galw cyfrwng Cymraeg posibl am sesiynau bore yng Ngogledd Caerdydd; sesiynau gofal dydd a Chylch Meithrin llawn yng Ngorllewin Caerdydd; a gofal ar ôl ysgol yn Ninas a De Caerdydd, De-orllewin Caerdydd a Gorllewin Caerdydd.
Mae cyfleoedd ac arian, sy'n gysylltiedig â chynllun Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Caerdydd i ddatblygu neu ehangu gofal plant Cymraeg sy'n gysylltiedig ag ysgolion cynradd Cymraeg.
Byddwn yn hyrwyddo cyrsiau blas ar y Gymraeg ar gyfer y gweithlu gofal plant a'r blynyddoedd cynnar er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r niferoedd isel o warchodwyr plant Cymraeg a sgiliau Cymraeg cyfyngedig llawer o staff gofal plant.
Fforddiadwyedd
Mae fforddiadwyedd yn parhau i fod yn fater allweddol i lawer o deuluoedd sydd eisiau neu sydd angen cael gofal plant.
Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn bartneriaid allweddol wrth wella gwybodaeth rhieni a gofalwyr am yr ystod o gymorth ariannol sydd ar gael i helpu gyda chostau gofal plant.
Byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth sydd ei hangen ar rieni ar gael ar wefan Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd ac mewn llyfryn i rieni.
Caiff mwy o leoliadau eu hannog i gofrestru i gynnig Gofal Plant di-dreth i helpu rhieni sy'n gweithio.
ADY, AAA ac anabledd
Dengys data nad yw pob lleoliad gofal plant yn ymwybodol o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'u cyfrifoldebau.
Byddwn yn cynyddu ymwybyddiaeth darparwyr gofal plant a'i gwneud yn haws iddynt gael cyngor, cymorth, arweiniad a hyfforddiant, er mwyn ymateb i anghenion plant.
Cymorth i'r sector gofal plant
Mae adborth gan ddarparwyr gofal plant yn dangos eu bod yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw gweithwyr gofal plant cymwys.
Mae cyfleoedd i weithio gyda Gwasanaeth i Mewn i Waith y Cyngor ac Addewid Caerdydd i gyfrannu at gefnogi'r sector.
Gwella ansawdd, cywirdeb a chysondeb data
Daeth yn amlwg wrth edrych ar y data nad oedd pob lleoliad gofal plant wedi deall y cyfarwyddiadau yn yr un modd. Mae hyn yn golygu efallai nad yw rhywfaint o'r data a ddefnyddir i gynhyrchu'r ADGP wedi bod yn gwbl gywir.
Mae angen gwaith i sicrhau bod y diweddariadau blynyddol, ac Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant yn y dyfodol yn cael eu llywio gan y data mwyaf cywir posibl, felly er nad yw'n fater i Gaerdydd yn unig, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i wella cywirdeb data.