Gallwn eich helpu i ddod o hyd i rywle diogel i aros yn ogystal â'ch helpu i gynllunio at yr hirdymor.
Os ydych chi'n dioddef, neu'n ofni dioddef cam-drin domestig gallwn eich helpu i wneud cais digartrefedd, a rhoi cefnogaeth arbenigol i chi.
Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:
- Seicolegol
- Corfforol
- Rhywiol
- Ariannol
- Emosiynol
Mynnwch help nawr
Mae RISE Caerdydd yn darparu cymorth arbenigol ar gam-drin domestig a gall eich helpu i wneud cais i'r digartref.
Bydd y swyddog yn RISE yn gofyn rhai cwestiynau i chi am eich sefyllfa ac yn rhoi cyngor i chi. Os oes angen, byddwn yn ceisio helpu i ddod o hyd i chi rywle diogel i chi fyw yn y tymor byr.
Efallai y gofynnir i chi am dystiolaeth ategol, a allai gynnwys manylion a dyddiadau digwyddiadau, ond ni fyddwch yn cael eich gwrthod os nad yw'r wybodaeth hon gennych.
Byddwn yn edrych yn ofalus ar bob achos.
Os oes risg i’ch diogelwch personol chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, ffoniwch yr heddlu ar 999 ar unwaith.
Gadael eich cartref ar unwaith
Os ydych chi’n credu eich bod mewn perygl, cofiwch ddeialu 999 a gofyn am yr heddlu.
Ewch â rhai pethau hanfodol gyda chi fel dillad, pethau ymolchi ac unrhyw feddyginiaeth yr ydych yn eu cymryd yn rheolaidd. Os gallwch ddod o hyd i ffordd ddiogel, ceisiwch fynd ag eitemau pwysig gyda chi fel eich pasbort, cardiau banc a chredyd a'ch ffôn symudol.
Peidiwch â gwneud penderfyniad i ildio'ch hawliau cyfreithiol i'ch cartref yn barhaol nes eich bod wedi siarad ag ymgynghorydd ac wedi ystyried eich holl opsiynau.