Mae Cartrefi Caerdydd yn bartneriaeth datblygu cyffrous rhwng Cyngor Caerdydd a’r datblygwr cenedlaethol, Wates Residential.
Mae wedi’i ddatblygu gan Gyngor Caerdydd i helpu i fynd i’r afael â’r angen tai ledled y ddinas trwy adeiladu’r cartrefi iawn yn y lleoedd iawn.
Bydd canran fach o gartrefi cyngor newydd ar gael i fod yn berchen arnynt trwy gynllun
Perchentyaeth â Chymorth y Cyngor. Mae’r cynllun hwn ar gyfer prynwyr tro cyntaf na allant fforddio prynu cartref newydd heb gymorth ariannol ar ffurf rhaniad ecwiti (rhaniad 70:30 fel arfer).
Bydd oddeutu 900 o gartrefi newydd (60%) ar gael i’w prynu ar y farchnad agored trwy Wates Living Space Homes dan y brand ‘Cartrefi Caerdydd’.
Mae amryw safleoedd ledled Caerdydd, a gaiff eu hadeiladu mewn 3 cham o 2017 tan 2025.
Mae ceisiadau cynllunio eisoes wedi’u cymeradwyo ar gyfer pob safle Cam 1 fel a ganlyn:
- Braunton a Clevedon / Golwg-y-Môr a Rhodfa’r Capten
- Willowbrook West / Rhos yr Arian
- Tŷ To Maen / Plas Hortensia - cwblhawyd
- Depo Llanrhymni
- Snowden and Wilson Road
- Tŷ Newydd
- Walker House