O ystyried yr achosion presennol o haint y Coronafeirws ac er mwyn paratoi ar gyfer cyflogeion yn gweithio gartref, cyflwynwyd y newidiadau canlynol ar unwaith i'r Cynllun Perchentyaeth a Gynorthwyir a than y ceir hysbysiad pellach:
- Cofrestriadau – Yr unig ffordd o gofrestru â’r cynllun bellach yw â’r ffurflen-arlein (dan Cofrestru i’r Cynllun)
- Cyflwyno ceisiadau – Dim ond drwy e-bost y caiff ceisiadau am eiddo eu derbyn bellach. I gadarnhau, NI FYDD unrhyw gyflwyniadau a wneir yn bersonol neu drwy'r post yn cael eu derbyn.
- Datblygiadau Newydd – Caiff ymweliadau unigol â safleoedd ond eu trefnu yn ôl disgresiwn yr adeiladwr tai. Ond, gall ymgeiswyr o hyd fynd i gartrefi arddagos ar y safle, os ydynt dal ar agor.
- Eiddo i’w ail-werthu – Bydd y apwyntiadau yn dal i gael eu trefnu ar gyfer eiddo ailwerthu os gwneir cais, fodd bynnag, ni fydd cynrychiolwyr y cyngor yn mynychu mwyach. Bydd y perchnogion yn gwneud y gwaith.
- Ymholiadau Ffôn – Er y bydd staff yn gweithio gartref, bydd y rhif isod yn dal ar gael.
Gan fod hon yn sefyllfa sy'n datblygu, ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi a diolch i chi am eich cydweithrediad ar yr adeg hon.
Gwybodaeth am Gynllun Perchentyaeth â Chymorth yn cynnwys ecwiti ar y cyd a pherchnogaeth ar y cyd.
Gweld a ydych chi'n gymwys i ymuno â'r cynllun.
Cwblhewch y ffurflen gofrestru a’i dychwelyd atom a chysylltwn ni â chi.
Canllaw i’ch helpu i gyfrifo costau prynu tŷ a’r costau parhaus.
Gweld manylion eiddo sydd ar gael mewn datblygiadau tai presennol neu rai newydd.