Mae Rhaglen Profiad Gwaith Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle i unigolion o unrhyw oedran* i wneud cais am leoliad profiad gwaith di-dâl er mwyn cael gwell dealltwriaeth o gyngor Caerdydd – yr Awdurdod Lleol sy’n cyflogi’r mwyaf o weithwyr yng Nghymru, a’r byd gwaith yn y sector cyhoeddus.
Mae lleoliadau profiad gwaith yn rhoi pwyslais ar ddysgu a chaiff unigolion gyfle yn arsylwi a/neu gyflawni amrywiaeth o dasgau neu ddyletswyddau tebyg i rai a gyflawnir gan weithiwr yn y gweithle.
Mae Cyngor Caerdydd, sef yr Awdurdod Lleol sy’n cyflogi’r mwyaf o weithwyr yng Nghymru, yn cydnabod y gwerth y mae ennill profiad o’r byd gwaith yn gallu ei gynnig i unigolion, a chaiff hyn ei gymeradwyo yn ein Strategaeth Addysgol ar gyfer Ysgolion –
Caerdydd 2020 – sy’n ymwreiddio’r berthynas rhwng dysgu a’r byd gwaith. Fel cyflogwr o ddewis, mae Cyngor Caerdydd yn datblygu cysylltiadau ag ysgolion, colegau a sefydliadau eraill i hyrwyddo rôl yr Awdurdod Lleol a’r cyfleoedd gyrfaol cyffrous ac amrywiol a gynigir gyda’n sefydliad ac o fewn sector y Lywodraeth Leol.
Yn ystod eich profiad gwaith gyda ni, byddwch yn ennill dealltwriaeth o sut y mae’r Cyngor yn gweithredu, sut y mae’r broses ddemocrataidd yn dylanwadu ar yr hyn yr ydym ni’n ei wneud, a’r gwasanaethau a ddarperir gennym.
Mae Cyngor Caerdydd yn cyflenwi dros 700 o wasanaethau ac yn cyflogi mwy na 13,500 o weithwyr o fewn amrywiaeth eang o swyddi ar draws nifer o wahanol broffesiynau, crefftau a swyddogaethau eraill.
Mae ein gwaith yn ddiddorol, heriol ac amrywiol. Mae gan y Cyngor dimau gwasanaeth yn y meysydd canlynol:
- Parciau
- Llyfrgelloedd
- Digwyddiadau’r Ddinas
- Lleoliadau Diwylliannol (gan gynnwys Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas, y Plasty)
- Gwasanaethau Addysg ac Ysgolion
- Tai
- Cysylltu â Chaerdydd
- Adnoddau Dynol
- Technoleg Gwybodaeth
- Cyllid
- Cyfreithiol
- Gwasanaethau Cyfieithu Caerdydd Ddwyieithog
- Iechyd Galwedigaethol
- Cynllunio
- Datblygu Economaidd
- Hybiau Cymunedol
- Cyngor ar Fudd-daliadau ac Arian, Timau Gwasanaeth i Mewn i Waith
- Cartref Cŵn Caerdydd
- Dysgu Cymunedol
- Gofal Cymdeithasol
- Gwasanaethau Cofrestru (Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau)
- Traffig a Trafnidiaeth
- Rheoli Gwastraff (a llawer mwy ar ben hynny).
Rydym ni’n edrych ymlaen at gynnig lleoliad profiad gwaith di-dâl i unigolion sy’n ystyried dilyn gyrfa o fewn Llywodraeth Leol yn y dyfodol, a gyda’r bwriad o gael eu cyflwyno’n gyffredinol i’r byd gwaith, neu sydd efallai’n bwriadu datblygu’n broffesiynol, neu gynllunio newid gyrfaol. Rydym ni hefyd yn cynnig lleoliadau profiad gwaith i israddedigion a graddedigion yn enwedig pan fo profiad gwaith yn ymwneud â’u hastudiaethau.
Rydym ni’n gofyn i’n holl weithwyr a’r unigolion hynny sydd ar brofiad gwaith gyda ni, weithio gan ddilyn a hyrwyddo ein Gwerthoedd Craidd.
Gwneud Cais
Cyn gwneud cais am brofiad gwaith, rydym yn annog pob ymgeisydd i ymgyfarwyddo â’r hyn rydym yn ei wneud ar y wefan hon gan gynnwys yr adrannau
Preswylydd,
Ymweld,
Eich Cyngor. Gallai hynny eich galluogi i ddod o hyd i faes neu dîm i weld eich cais am leoliad profiad gwaith a fyddai’n well gennych. Rydym yn gofyn i chi ddefnyddio’r ffurflen a ddarperir a’ch bod chi, os ydych yn llwyddiannus, yn gweithio’n unol â’n gwerthoedd ac yn eu hybu.
Dylid anfon ceisiadau am brofiad gwaith i
gwasanaethaupoblAD@caerdydd.gov.uk drwy ddefnyddio’r ffurflen gais a ddarperir. Os hoffech chi siarad â rhywun cyn gwneud cais, cysylltwch â Dîm Gwasanaethau Pobl AD drwy ffonio 029 20 872222. Gallwch wneud cais yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Nodwch, yn anffodus, ni allwn ni dalu am unrhyw brofiad gwaith a wneir nac am unrhyw dreuliau y mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi eu talu.
*Mae cyfleoedd profiad gwaith di-dâl Cyngor Caerdydd ar gael i bob unigolyn 14+ oed sy’n byw a/neu sy’n astudio yng Nghaerdydd, ni waeth beth fo’i anabledd, rhyw neu hanes o ailbennu rhywedd; beichiogrwydd neu famolaeth; hil; crefydd neu gred, tueddfryd rhywiol neu oedran. Rydym yn gweithio’n galed i ddod o hyd i gyfleoedd lleoliad i’r bobl hynny sy’n gwneud cais ond oherwydd y swm uchel o geisiadau rydym yn eu derbyn, nid yw bob amser yn bosibl ac felly ni allwn warantu y cynigir lleoliad.