Beth yw’r Ddeddf Diogelu Data?
Sut y mae’n diogelu data personol amdanoch chi?
Beth yw eich hawliau?
Pam ydym yn cadw gwybodaeth bersonol?
A oes angen i’r Cyngor gael eich caniatâd i ddefnyddio gwybodaeth amdanoch at unrhyw un o’r dibenion hyn?
Sut ydych chi’n gofyn i gael gweld gwybodaeth amdanoch chi?
Oes rhaid talu i weld eich gwybodaeth?
Sut ydym ni’n gwybod mai chi yw’r person y cyfeirir ato yn y Cais Gwrthrych am Wybodaeth?
Pa wybodaeth y byddwch chi’n ei chael?
Pa wybodaeth y gellir gwrthod ei datgelu?
Sut rhoddir y wybodaeth i chi?
Beth i’w wneud os bydd y wybodaeth yn anghywir?
Beth i’w wneud os byddwch o'r farn na chawsoch yr holl wybodaeth y gwnaethoch ofyn amdani?
Sut y gallwch atal y Cyngor rhag defnyddio gwybodaeth amdanoch chi at ddibenion Marchnata Uniongyrchol neu ei atal rhag defnyddio gwybodaeth at ddibenion a allai beri niwed neu ofid?
A yw’r Cyngor yn cynnig help o ran deall y wybodaeth?
 
 

Beth yw’r Ddeddf Diogelu Data?

 
Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn rheoleiddio’r gwaith o brosesu gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolion, gan gynnwys cael gafael ar, cadw, defnyddio neu ddatgelu gwybodaeth o’r fath.  Y  Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth sy’n gyfrifol am orfodi’r ddeddf ac mae Cyngor Caerdydd wedi’i gofrestru gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth fel Rheolwr Data. Mae cofnod y Cyngor ar y gofrestr yn cynnwys disgrifiad cyffredinol o’r ffordd y caiff data personol ei brosesu, sef gwaith a gyflawnir gan y Cyngor fel rhan o’i ddyletswyddau cyhoeddus.
 

Sut y mae’n diogelu data personol amdanoch chi?

 
Drwy bennu rheolau ac amodau y mae’n rhaid i bawb sy’n defnyddio gwybodaeth bersonol, megis y Cyngor hwn, gydymffurfio â nhw wrth gael gafael ar wybodaeth amdanoch chi a’i defnyddio.   Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi rhai hawliau penodol i chi y mae’n rhaid i unrhyw sefydliad eu parchu.
 

Beth yw eich hawliau?

 
  • I ofyn i’r Cyngor a yw’n cadw unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi.
  • I ofyn at ba ddibenion y mae’n defnyddio’r wybodaeth honno.
  • I gael copi o’r wybodaeth dan sylw.
  • I gael manylion am sut y mae’r Cyngor yn defnyddio’r wybodaeth ac unrhyw sefydliadau neu bobl eraill sy’n cael gweld y wybodaeth.
  • I ofyn i ddata anghywir gael ei gywiro.
  • I ofyn i’r Cyngor beidio â defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch chi at ddibenion marchnata uniongyrchol, sy’n debygol o achosi niwed neu ofid na gwneud penderfyniadau amdanoch chi yn seiliedig ar brosesu’r data.
  • I wneud iawn am unrhyw ddifrod neu ofid a achosir os byddwn yn methu â chydymffurfio â rhai o ofynion y Ddeddf.

 

 

Pam ydym yn cadw gwybodaeth bersonol?

Er mwyn darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch, casglu’r Dreth Gyngor, casglu rhent, cyfrifo Budd-dal Tai ac ati, a chadw cofnod o’r gwasanaethau a ddarperir. Mae’r Cyngor yn darparu nifer o wasanaethau gwahanol a restrir ar y Ffurflen Cais Gwrthrych am Wybodaeth. Gellir e-bostio ffurflenni wedi’u cwblhau i foi@caerdydd.gov.uk neu eu hanfon at: 
 
Y Swyddog Diogelu Data
Gwella a Gwybodaeth 
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
 

A oes angen i’r Cyngor gael eich caniatâd i ddefnyddio gwybodaeth amdanoch at unrhyw un o’r dibenion hyn?

 
Fel arfer, ond nid bob amser.Dim ond os ydym yn mynd i brosesu data amdanoch chi at ddibenion heblaw am y rhai y mae’n ofynnol i ni eu darparu yn ôl y gyfraith y byddwn fel arfer yn gofyn am eich caniatâd. O bryd i’w gilydd bydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hyn heb i chi roi caniatâd os yw hynny’n rhesymol ac yn annhebygol o arwain at unrhyw ragfarn yn eich erbyn, ond hyd yn oed os felly, er lles tegwch, byddwn yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i chi beth rydym yn ei wneud.   Mae ein holl ffurflenni cais a cheisiadau am wybodaeth yn egluro pam fod angen i ni gael y wybodaeth honno. Maent yn egluro sut y gellir gwneud hynny ac at ba ddibenion cyfreithlon eraill y gellir defnyddio eich gwybodaeth heb i chi roi caniatâd penodol. Pan fydd y Cyngor yn casglu data personol dylai nodi sut y disgwylir i’r data hwn gael ei ddefnyddio a’i gadw. Gelwir y wybodaeth hon yn Ymwadiad Prosesu Teg.  Mewn rhai achosion efallai y byddwch yn gallu dewis cael eich cynnwys neu’ch eithrio os bydd y Cyngor yn defnyddio gwybodaeth at ddibenion eraill – os felly, rhoddir eglurhad o'r drefn yn yr Ymwadiad Prosesu Teg. 
Nôl i'r brig
 

Sut ydych chi’n gofyn i gael gweld gwybodaeth amdanoch chi?

Rhaid i chi ysgrifennu i’r Cyngor, argymhellwn i chi ddefnyddio'r Ffurflen Cais Gwrthrych am Wybodaeth (269kb DOC)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd i’n helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth yr hoffech ei chael.  Gellir e-bostio ffurflenni wedi’u cwblhau i foi@caerdydd.gov.uk neu eu hanfon at: 
 
Y Swyddog Diogelu Data
Gwella a Gwybodaeth 
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
 
 
Pan fyddwch yn gofyn i gael gweld eich cofnodion, dywedwch cymaint â phosibl wrthym am y wybodaeth yr hoffech ei gweld.  Bydd angen i chi roi eich enw a’ch cyfeiriad, dyddiad geni, manylion y gwasanaeth(au) rydych chi’n eu cael ac unrhyw wybodaeth arall (e.e. rhif rhent neu’r Dreth Gyngor) a allai helpu’r Cyngor i ddod o hyd i’r wybodaeth.  Os byddwch yn galw heibio i un o swyddfeydd y Cyngor, cewch gopi o’r ‘Ffurflen Cais Gwrthrych am Wybodaeth’.  Gallwch gael help i gwblhau’r ffurflen os bydd angen.  Anfonir y ffurflen gais atoch hefyd os na fyddwch wedi rhoi digon o fanylion a byddwn yn gofyn i chi roi rhagor o fanylion i’n helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth dan sylw.
 

Gwneud cais i weld recordiad teledu cylch cyfyng (CCTV)

 
Os hoffech wneud cais i weld recordiad teledu cylch cyfyng cwblhewch y Ffurflen Cais i weld Recordiad Teledu Cylch Cyfyng.  
 
Caiff gwybodaeth y gofynnir amdani ei rhoi i chi yn ôl disgresiwn Cyngor Dinas Caerdydd yn unol â’n gofynion statudol dan y Ddeddf Diogelu Data
 
 

Oes rhaid talu i weld eich gwybodaeth?

 
O dan Ddeddf Diogelu Data 1998 mae ffi o £10 yn daladwy. 
 
Unwaith y byddwch chi wedi cael Cyfeirnod Cais am Wybodaeth, defnyddiwch ein system talu ar-lein ddiogel i gwneud taliad i'r cyngor.
Mae'r cyfeirnod yn dechrau gyda IR.
 
 
 
 
Fel arall gallwch anfon siec yn daladwy i Gyngor Sir Caerdydd i’r cyfeiriad isod.
 
Y Swyddog Diogelu Data
Gwella a Gwybodaeth 
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
 
Ni fyddwn yn darparu'r wybodaeth tan i chi dalu’r ffi a bydd y cyfnod ymateb 40 diwrnod yn dechrau unwaith i ni gael y taliad. Yn achos cais am gofnod addysgol, efallai y bydd angen talu ffi hyd at uchafswm o £50, yn dibynnu ar nifer y tudalennau.   Mae rhai darnau o wybodaeth wedi eu heithrio o’r darpariaethau datgelu o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, felly nid yw talu'r ffi o reidrwydd yn sicrhau y caiff y wybodaeth a gedwir gennym ei rhyddhau.
 
 

Sut ydym ni’n gwybod mai chi yw’r person y cyfeirir ato yn y Cais Gwrthrych am Wybodaeth?

 
Cyn rhyddhau unrhyw wybodaeth, gofynnir am ddogfennau adnabod felly gofynnir i chi gyflwyno’r canlynol i ni:
Copi clir o gyfriflen banc diweddar, neu fil cyfleustod, (o’r tri mis diwethaf), a Copi ardystiedig clir o Brawf Adnabod Ffotograffig e.e. Pasbort, Trwydded Yrru
 
 
 
 

A all rywun arall wneud cais am wybodaeth ar fy rhan?

 
Os byddai’n well gennych fod rhywun arall yn gwneud cais ar eich rhan byddwn yn fwy na pharod i brosesu’r cais hwnnw, ond gofynnir am Ffurflen Ganiatâd Cais Gwrthrych am Wybodaeth wedi’i llofnodi ynghyd â phrawf adnabod ar eich cyfer chi a’r sawl sy’n gwneud y cais ar eich rhan.
 
Os oes gennych chi awdurdod cyfreithiol megis Atwrneiaeth gofynnir am brawf o’r awdurdod hwnnw cyn y gellir ymdrin â’ch cais.
Fodd bynnag os mai cyfreithiwr / cwmni yswiriant sy’n gweithredu ar ran cleient ydych chi, cwblhewch y   Ffurflen Cais Gwrthrych – Cynrychioli
Rhywun Arall a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y ffurflen. 
 
 
 
 
 

Pa wybodaeth y byddwch chi’n ei chael?

 
Oni bai fod gennym hawl i beidio â’i datgelu, byddwch chi’n cael yr holl wybodaeth y gwnaed cais amdani a gedwir gan y Cyngor amdanoch chi yn ei gofnodion cyfrifiadurol a phapur.  Byddwn hefyd yn cynnig disgrifiad o’r dibenion rydym yn prosesu eich data atynt ynghyd a rhestr o bartïon eraill y caiff ei ddatgelu iddynt a gwybodaeth am ffynonellau.
 
 
 
 
 

Pa wybodaeth y gellir gwrthod ei datgelu?

 
O dan rai amgylchiadau prin, efallai na fydd y Cyngor yn gallu cydymffurfio'n llawn â'ch cais gan fod rhai eithriadau yn y ddeddf. Os felly, byddwch yn cael esboniad llawn.
 
Dylech hefyd fod yn ymwybodol nad yw rhai mathau o wybodaeth a gedwir gennym, a allai ddatgelu pwy ydych chi, yn cael eu cwmpasu gan y ddeddf. Er enghraifft, os byddwch yn anfon gwrthwynebiad i gais cynllunio, er y gallai'ch enw a'ch cyfeiriad fod wedi'i nodi ar y gwrthwynebiad, nid yw hynny o reidrwydd yn 'ddata personol' gan fod y gwrthwynebiad yn ymwneud â’r cais cynllunio, nid yw’n ymwneud â chi.
 
Er bod gennych hawl mewn egwyddor i weld yr holl ddata personol a gedwir amdanoch chi mae rhai eithriadau. Yn benodol, gellir gwrthod rhyddhau data personol os yw’r canlynol yn wir:
 
  • Gallai effeithio ar y gwaith o atal neu ganfod trosedd, erlyn neu ddal troseddwyr neu asesu neu gasglu unrhyw dreth neu ddyletswydd i ddarparu copi
  • Gallai’r data ddatgelu pwy yw pobl eraill nad ydynt wedi rhoi caniatâd i’w data gael ei ddatgelu ac os yw’n ymddangos, ar y cyfan, na fyddai’n briodol i’w ddatgelu
  • Gallai datgelu’r data achosi niwed neu ofid i chi neu unigolyn arall
  • Mae’r data yn cynnwys gwybodaeth rhwng cleient ac ymgynghorydd cyfreithiol (braint broffesiynol gyfreithiol)
 
 

Sut rhoddir y wybodaeth i chi?

 
Rhoddir copi i chi ei gadw ac i gadarnhau ei gywirdeb;  naill ai dogfen wedi’i hargraffu o gyfrifiadur neu lungopi o’ch cofnodion papur.
 
 
 
 

Beth i’w wneud os bydd y wybodaeth yn anghywir?

 
Rhaid i chi ysgrifennu i’r Cyngor i ddweud wrthym pa wybodaeth sy’n anghywir a gofyn iddi gael ei chywiro.   Rhaid i’r Cyngor roi gwybod i chi beth y mae wedi’i wneud o fewn 21 diwrnod i gael eich cais.  Os na fydd y Cyngor yn cytuno bod y wybodaeth yn anghywir gallwch ofyn i ni gofnodi eich gwrthwynebiad ar eich cofnodion.   Gallwch hefyd apelio i’r Comisiynydd Gwybodaeth neu’r Llysoedd os na fydd y Cyngor yn cywiro’r wybodaeth.
 
 
 

Beth i’w wneud os byddwch o'r farn na chawsoch yr holl wybodaeth y gwnaethoch ofyn amdani?

 
Nid oes gennych hawl i ofyn i’r Cyngor gynnal adolygiad mewnol o dan y Ddeddf Diogelu Data felly os byddwch yn anfodlon o hyd ac o’r farn nad yw’r Cyngor wedi datgelu’r holl wybodaeth sydd ganddo sy’n ymwneud â chi dylech apelio i’r Comisiynydd Gwybodaeth.   Bydd staff y Comisiynydd yn ymchwilio i’r mater ar eich rhan.
 
 

Sut y gallwch atal y Cyngor rhag defnyddio gwybodaeth amdanoch chi at ddibenion Marchnata Uniongyrchol neu ei atal rhag defnyddio gwybodaeth at ddibenion a allai beri niwed neu ofid?

 
Rhaid i’r Cyngor sicrhau ei fod yn cydymffurfio â Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003. Dylech ysgrifennu i’r Cyngor yn gofyn iddo beidio â phrosesu eich gwybodaeth at ddibenion marchnata uniongyrchol.  Os byddwch o’r farn y gallai’r ffordd y mae eich data’n cael ei ddefnyddio beri niwed neu ofid, rhaid i chi ysgrifennu i’r Cyngor gan gyflwyno hysbysiad Adran 10 dilys gyda'ch rhesymau dros ofyn i ni roi’r gorau i brosesu’r wybodaeth honno.
 
Bydd y Cyngor yn dweud wrthych ac yn gofyn i chi ysgrifennu os bydd gennych unrhyw wrthwynebiad.  Os byddwch chi'n gwrthwynebu, bydd y Cyngor yn gwneud penderfyniad newydd ond y tro hwn, ni fydd yn gwneud hynny drwy ddulliau awtomataidd.
 
 
 
 
 

Pryd y gallwch chi hawlio iawndal?

 
Os bydd y Cyngor wedi torri unrhyw un o reolau neu amodau'r Ddeddf Diogelu Data a’ch bod wedi dioddef niwed neu ofid yn sgîl hynny, efallai y gallwch hawlio iawndal.  Hefyd, efallai y gallwch hawlio iawndal os byddwch wedi dioddef niwed neu ofid am ein bod ni wedi defnyddio data anghywir.
 
 
 
 
 

Sut ydych chi’n gwneud cais am iawndal?

 
Gwneir ceisiadau drwy’r Llysoedd. Dim ond os gallwch ddangos bod y Cyngor heb gymryd gofal rhesymol i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r Ddeddf y bydd y Llysoedd yn cefnogi ceisiadau, ac mewn achosion sy’n ymwneud â data anghywir, dim ond os byddant yn fodlon eich bod wedi dioddef niwed o ganlyniad i’r ffaith ein bod wedi defnyddio data anghywir.
 
 
 
 
 

A yw’r Cyngor yn cynnig help o ran deall y wybodaeth?

 
Ydy, os bydd angen help arnoch i ddeall y wybodaeth a roddwyd, y ffurflen gais neu’r daflen hon, rhowch wybod i ni a byddwn yn trefnu i rywun eich helpu. Mae gwasanaeth cyfieithu ar gael hefyd.