Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Papur Gwyn Trafnidiaeth

Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd yr aer ym mhrifddinas Cymru.   Mae wedi ei ddatblygu yn sgil ymgynghori gyda miloedd o breswylwyr y ddinas ac arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth.  

 
Mae opsiynau cyflawni’r weledigaeth drafnidiaeth gwerth £1 - £2 biliwn yn cael eu hystyried. Nod y weledigaeth yw trawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth Caerdydd a de ddwyrain Cymru drwy gyfres o brojectau a allai chwyldroi teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd a’r cylch.  ​

 

 

 

Llinellau tram-trên Cledrau Croesi Caerdydd a Chylch Caerdydd, yn cysylltu cymunedau’r presennol, a rhai newydd, ar hyd a lled y ddinas, yn cynnwys gorsafoedd newydd a gorsafoedd wedi eu hailwampio. Yn gweithio’n agos â phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, byddwn yn cefnogi lansio system docynnau integredig, er mwyn i bobl allu teithio ar y trên ac ar fysys, a llogi beiciau, gan ddefnyddio un tocyn.
Gwella gwasanaethau drwy sefydlu rhwydwaith bysys traws-ddinas, wedi ei gysylltu â’r Metro newydd. Bydd hyn yn cynnwys dolen fws gylchol o amgylch canol y ddinas, fydd yn golygu teithiau traws-ddinas haws i bobl, a gorsafoedd bysys newydd yn nwyrain a gorllewin y ddinas. I wneud teithio ar y bws yn fwy fforddiadwy, mae’r Cyngor yn cynnig gweithio gyda gweithredwyr bysys i leihau prisiau i £1 ledled y ddinas.
Rhwydwaith seiclo diogel ac o ansawdd uchel, yn gwbl ar wahân i gerbydau eraill, erbyn 2026. Bydd hyn yn cynnwys dolen seiclo gyfan o amgylch canol y ddinas, fydd wedi ei chysylltu â chwe beicffordd, sydd wedi eu cynllunio ar gyfer mannau ledled y ddinas. Bydd cynllun llogi beiciau nextbike yn cael ei ehangu i o leiaf 2000 o feiciau a bydd cyfleoedd beicio rhanbarthol newydd yn cael eu cyflwyno i roi cyfle i ragor o bobl i ymuno â’r cynllun. Bydd y Cyngor hefyd yn cyflwyno ‘Menter Strydoedd Iechyd’, fel bod strydoedd yn cael eu defnyddio eto fel mannau cyhoeddus iach i’r cyhoedd eu mwynhau, yn cynnwys uchafswm cyflymdra 20mya ledled y ddinas.
Cefnogi’r newid i gerbydau ag allyriadau is, er enghraifft drwy gynyddu nifer y mannau gwefru trydan yn ddirfawr ar hyd Caerdydd ac ehangu argaeledd ceir clwb ar hyd a lled y ddinas. Bydd technoleg CLYFAR yn defnyddio gwybodaeth deithio amser go iawn i fonitro ac ymateb i ddata trafnidiaeth, traffig a pharcio, yn lleihau tagfeydd ar goridorau trafnidiaeth CLYFAR.
Mae’r Cyngor yn cynnig rhwydwaith bysys gwib gyda gwasanaethau bws rheolaidd a fforddiadwy yn gweithredu pob 15-20 munud ar adegau prysur. Bydd y rhwydwaith hwn yn cysylltu trefi ar hyd a lled y dinas-ranbarth â chanol Caerdydd.

Mae gwelliannau sylweddol hefyd yn cael eu gwneud i bob prif lwybr i’r ddinas, gan gynnwys:

Coridor Trafnidiaeth y Gogledd-Orllewin: 
Gwelliannau â’r nod o wella hygyrchedd ar gyfer cymunedau Llantrisant a Thonysguboriau i ac o Gaerdydd. Mae gwaith eisoes wedi dechrau i godi cyfnewidfa drafnidiaeth yn Waungron Road fydd yn cysylltu â chyfleuster Parcio a Theithio newydd ar Gyffordd 32 Traffordd yr M4.

Mae opsiynau i fodurwyr newid i deithio ar y bws yn y coridor yn cael eu hystyried hefyd, gyda chyswllt bws gwib ar yr A4232 i Fae Caerdydd.

Coridor y gogledd:
Mae cynllun peilot CLYFAR ar waith ar gyfer rhan fawr o goridor yr A470 rhwng Coryton a Gabalfa ac mae disgwyl y caiff ei gyflwyno yn 2020.

Mae Coridorau CLYFAR yn defnyddio data ar y pryd i reoli symudiad traffig, trafnidiaeth gyhoeddus, cerddwyr a beicwyr. Bydd hyn yn golygu y gall teithwyr wneud dewisiadau doethach o ran sut maen nhw’n dymuno teithio, a chynllunio’u teithiau cyn teithio.

Coridorau’r Gogledd a’r De Ddwyrain:
Mae opsiynau’n cael eu hystyried i wella cysylltiadau trafnidiaeth, gan gynnwys seilwaith cerdded a beicio.

Coridor y de-orllewin:
Mae nifer o opsiynau’n cael eu hystyried i leihau tagfeydd rhwng Penarth a Chaerdydd. Mae’r rhain yn cynnwys cynllun beiciau trydan peilot, cyfleusterau cyfnewidfa yng ngorsaf drenau Cogan, ymchwilio i ddichonolrwydd cyfleusterau cerdded a beicio o amgylch pentir Penarth, a chyswllt bws Morglawdd Caerdydd rhwng Penarth a Chaerdydd.

Amserlen gyflawni ar gyfer prif brojectau trafnidiaeth


 

2020

  • Trafnidiaeth Cymru cyflwyno rhagor o gapasiti drenau ar lwybrau allweddol y Cymoedd

 

2021

  • Parcio a Theithio Newydd/Gwell yn C32/A470, C33 a Dwyrain Caerdydd
  • Gorsafoedd bysus newydd yn Waungron ac Ysbyty Athrofaol Cymru​

 

2022


 
  • Cwblhau projectau Cam 1 Metro Uwch e.e. Cyfnewidfa’r Porth a Pharcio a Theithio Pontypool a New Inn/Y Pîl
  • Cam cyntaf y rhwydwaith beics ar wahân (chwe llwybr) wedi cwblhau
  • Gorsaf Fysus Canol Caerdydd i’w chwblhau

 

 

2023


 
  • Trafnidiaeth Cymru cyflwyno rhagor o gapasiti drenau ar lwybrau allweddol y Cymoedd
  • Gorsafoedd Metro wedi agor ar Heol y Crwys
  • Gorsaf Parkway Caerdydd wedi agor yn Llaneirwg
  • Regional express bus scheme implemented

 

2024

  • Cam 1 y Cledrau Croesi - gwasanaeth tram-trên newydd o Radur i Fae Caerdydd ar hyd Lein y Ddinas a chyswllt newydd i’r de o’r orsaf ganolog ac ar draws Sgwâr Callaghan
  • Gorsafoedd Metro wedi agor ar Mharc y Rhath a Sgwâr Loudon

 
Cyflwyno dull codi tâl

 

2025


 
  • Trafnidiaeth Cymru cyflwyno gwasanaethau ychwanegol (dydd Sul a chyda’r nos)
  • Rhwydwaith beics wedi’i gwblhau

 

2028


 
  • Gorsaf Metro Gabalfa i gael ei hagor
  • Llinell tram-trên Cledrau Croesi Caerdydd i gael ei hagor
  • Llinell tram-trên Cylch Caerdydd i gael ei hagor
  • Gorsafoedd Metro wedi cael eu hagor ym Mharc y Rhath, Parc Fictoria, Felindre a Sblot​
​​​​​
​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd