Yn unol â Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 mae angen i bob awdurdod lleol yng Nghymru gyhoeddi strategaeth toiledau lleol.
Mae cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i wneud y canlynol:
- asesu'r angen am doiledau yn eu cymunedau
- cynllunio i fodloni'r angen hwnnw
- llunio strategaeth toiledau lleol
- adolygu'r strategaeth, ei diweddaru a hysbysebu’r diwygiadau
Yn 2019, cynhaliom ymgynghoriad i helpu i lunio'r strategaeth toiledau lleol ar gyfer Caerdydd.
Cyhoeddwyd ein Strategaeth Toiledau Lleol ym mis Rhagfyr 2019 gyda'r nod o sicrhau bod pobl sy'n byw yn y ddinas neu'n ymweld â hi yn gallu cael mynediad i'r toiledau sy'n bodloni’u hanghenion unigol.
Rydym wedi cyhoeddi datganiad cynnydd interim sy'n tynnu sylw at y camau yr ydym wedi'u cymryd ers cyhoeddi'r strategaeth.
Cyhoeddir yr adolygiad llawn nesaf o'r strategaeth ym mis Mai 2023.