Dewch o hyd i fannau cynnes, cwmni, prydau bwyd am ddim a bwyd i'ch cadw chi a'ch teulu yn gynnes ac yn ddiogel.
Mannau cynnes
Mae ein Hybiau a phartneriaid eraill ar agor i chi. Gallwch ddod o hyd i ardaloedd croeso cynnes yn agos atoch chi.
Cymorth bywd
Gallwch ddefnyddio ein map rhyngweithiol i ddod o hyd i bantrïoedd, banciau bwyd, ac oergelloedd cymunedol yn eich ardal.
Cymorth brys am fwyd
Os oes angen bwyd arnoch ar frys, gall ein
Tîm Cyngor Ariannol, Hybiau a Llinell Gynghori roi talebau am fwyd brys.
Taliad Cymorth Brys
Grant yw’r taliad Cymorth Brys i helpu i dalu costau hanfodol, fel bwyd, os ydych:
- yn profi caledi ariannol eithafol
- wedi colli'ch swydd
- wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf
Prydau Ysgol Am Ddim
Bydd disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael prydau ysgol am ddim os yw eu teulu'n derbyn budd-daliadau penodol.