Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hawlio budd-daliadau

Darganfyddwch pa gymorth ariannol y mae gennych hawl iddo.

Gwiriwr cymhwysedd GOV.UK

Gallwch ddefnyddio gwiriwr cymhwysedd GOV.UK i ddarganfod a ydych yn gymwys i gael budd-daliadau neu gymorth ariannol.

Help gyda’ch Treth Gyngor

Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i hawlio gostyngiad y Dreth Gyngor. 

Darganfyddwch a ydych yn gymwys a gwneud cais ar gyfer gostyngiad y Dreth Gyngor

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad ar eich treth Gyngor. Mae'r gostyngiadau’n cynnwys: 

  • gostyngiad person anabl,
  • eithriad myfyrwyr,
  • gostyngiad person sengl. 


Gweler pa ostyngiadau y Dreth Gyngor sydd ar gael a sut i wneud cais. 

Help gyda’ch rhent

Os ydych o oedran gweithio ac ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-dal tai os: 

  • ydych yn bensiynwr ac ar incwm isel, 
  • oes gennych hawl i bremiwm anabledd difrifol o fewn y budd-daliadau eraill a gewch, 
  • ydych yn byw mewn llety â chymorth. 


Os oes angen cyngor arnoch ar hawlio cymorth gyda'ch rhent, cysylltwch â ni ar 029 2087 1071 neu dewch draw i’ch canolfan leol

Cymorth budd-dal anabledd

Gall ein tîm cymorth budd-dal anabledd eich helpu chi a'ch teulu os hoffech wneud cais am fudd-daliadau fel: 

  • Lwfans Byw i'r Anabl,
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol,
  • Lwfans Gofalwr. 


Os yw eich cais wedi'i wrthod, gallwn hefyd eich cefnogi i ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried eich cais a chymryd apeliadau i'r Tribiwnlys, os yw'n briodol.

Gallwn eich helpu dros y ffôn neu gallwn drefnu apwyntiad fel y gallwch ein gweld yn bersonol yn ein Hybiau. 

Cysylltwch â ni ar 02920 871 071 neu e-bostiwch cymorthbudd-dalanabledd@caerdydd.gov.uk 

Taliad Annibyniaeth Bersonol

Os ydych o dan oedran pensiwn y wladwriaeth a bod gennych anabledd neu anghenion gofal, efallai y byddwch yn gymwys i gael Taliadau Annibyniaeth Bersonol i helpu gyda chostau byw.

Telir hyn mewn dwy ran, ac mae'r taliadau a gewch yn dibynnu ar eich anabledd a'ch anghenion gofal.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys a gwneud cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol​.​

​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd